Un person wedi'i gludo i'r ysbyty yn dilyn 'digwyddiad mawr' yng Ngorseinon
Mae un person wedi'i gludo i'r ysbyty yn dilyn "digwyddiad mawr" yng Ngorseinon, Abertawe.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty, gydag adroddiadau lleol yn awgrymu bod person arall wedi'i anafu’n ddifrifol.
Mae sawl prif ffordd yn y dref wedi cau i gerbydau a cherddwyr wedi'r digwyddiad ar Ffordd Pen Cae Crwn.
Roedd cerbydau heddlu i'w gweld ar y Stryd Fawr yn y prynhawn.
Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn disgwyl i'r ffyrdd fod ar gau am gyfnod hir.
Hefyd mae'r llu yn annog pobl leol i aros yn eu tai.
Mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw i Orseinon amser cinio, gydag ambiwlans awyr wedi'u alw i'r dref.
Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans, tra bod ambiwlans awyr wedi mynychu "digwyddiad arall" yn y dref am 13:10.
Dywedodd yr heddlu bod eu presenoldeb yn parhau yn yr ardal nos Iau.
"Mae swyddogion yn parhau ar safle digwyddiad difrifol a ddigwyddodd ar Ffordd Pen Cae Crwn am 12:58 ddydd Iau.
"Mae'r ffordd ar gau rhwng Ffordd Cecil ar gyffordd y Stryd Fawr tuag at Pen Cae Crwn a tuag at y gyffordd ar Ffordd Frampton.
"Hefyd mae Ffyrdd Brighton, Brynteg a Phontarddulais ar gau."
