Rygbi: Louis Rees-Zammit ar y fainc i Gymru yn erbyn yr Ariannin

Zammit

Mae Louis Rees-Zammit wedi ei enwi ar y fainc ar gyfer ail gêm Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ddydd Sadwrn oddi cartref yn erbyn yr Ariannin (20.10).

Mae’r asgellwr wedi disgyn allan o’r XV i gychwyn y gêm, gydag Ellis Mee yn cymryd ei le.

Hefyd wedi’i enwi ar y fainc mae blaenasgellwr Caerwysg, Kane James, a allai ennill ei gap cyntaf dros Gymru.

Alex Mann sydd yn ildio’i le yn y garfan, wrth i James Botham ddechrau’r gêm yn y crys rhif chwech, a James wedi’i enwi fel eilydd yn y safle.

Nid yw Dan Edwards wedi’i gynnwys yn y garfan chwaith, gyda Sam Costelow yn hawlio’r crys rhif 10 ar ôl ymddangos fel eilydd yn ystod buddugoliaeth 39-24 i Gymru dros Ffiji ddydd Sadwrn diwethaf.

Fe fydd y bachwr Ryan Elias yn ennill ei 50fed cap os y bydd yn ymddangos oddi ar y fainc yn ystod y gêm yn San Juan.

Mae Teddy Williams a Max Llywelyn hefyd wedi’u galw i fyny fel eilyddion ar gyfer yr ornest yn erbyn y Pumas.

'Egni'

Dywedodd Steve Tandy ei fod yn edrych ymlaen i weld cyn chwaraewr Dan 20 Lloegr, Kane James yn tynnu’r crys coch ymlaen am y tro gyntaf.

“Mae Kane yn chwaraewr cyffrous, pwerus ac arbennig o gyflym hefyd. Mae wedi ymgartrefu’n llwyr yn y garfan ers yr eiliad gyntaf iddo ymuno gyda ni," meddai.

"Mae ganddo rhyw egni arbennig ym mhopeth y mae’n ei wneud ac mae’n drylwyr iawn yn ei holl baratoadau. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn ennill ei gap cyntaf y penwythnos yma.”

Colli gartref yn erbyn yr Alban o 38-27 oedd hanes yr Archentwyr yn eu gêm agoriadol o’r bencampwriaeth newydd rhwng timau hemisffer y gogledd a’r de y penwythnos diwethaf.

Ychwanegodd Tandy: “Mae tri newid yr wythnos yma ac mae’r gêm hon yn cynnig cyfle gwych i’r bechgyn sy’n dod i mewn i’r tîm. Yn naturiol, ry’n ni’n gobeithio adeiladu ar ein perfformiad diwethaf ac mae’r her sydd o’n blaenau’n tynnu dŵr i’r dannedd.

“Mae chwarae oddi cartref wastad yn brofiad gwahanol a chyffrous a bydd y gêm hon yn rhoi syniad da i ni o ble ry’n ni arni o safbwynt ein datblygiad diweddar. 

"Ry’n ni’n gwybod bod Ariannin yn dîm angerddol a dawnus iawn.”

Bydd Yr Ariannin v Cymru yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 20.10 ar nos Sadwrn.

Llun: Louis Rees-Zammit yn erbyn Ffiji ddydd Sadwrn diwethaf (Asiantaeth Huw Evans)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.