Cwpan y Byd: Gwlad Belg yn trechu America a Balogun
Mae America allan o Gwpan y Byd ar ôl colli’n drwm yn erbyn Gwlad Belg yn rownd yr 16 olaf, er i Fifa wyrdroi gwaharddiad Folarin Balogun cyn y gêm yn dilyn trafodaethau gyda’r Arlywydd Donald Trump.
Colli 4-1 yn Seattle oedd hanes yr Americanwyr, yn dilyn penderfyniad dadleuol Fifa i wyrdroi gwaharddiad prif sgoriwr America, Balogun, ar ôl iddo dderbyn cerdyn coch yn y gêm flaenorol yn erbyn Bosnia a Herzegovina.
Dywedodd Mr Trump ddydd Llun ei fod wedi gofyn i lywydd Fifa, Gianni Infantino, ailystyried y penderfyniad i anfon Balogun oddi ar y cae.
“Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn drosedd,” meddai Mr Trump wrth y wasg cyn y gêm.
Inline Tweet: https://twitter.com/USMNT/status/2074312219819696392?s=20
Inline Tweet: https://twitter.com/BelRedDevils/status/2074315204704240101?s=20
Mae’r canlyniad yn golygu bod y tair gwlad sy’n cynnal y gystadleuaeth – Canada, Mecsico a’r Unol Daleithiau – bellach allan o’r gystadleuaeth.
Yn y gêm arall nos Lun, enillodd Sbaen 1-0 yn erbyn Portiwgal i gyrraedd yr wyth olaf, yng ngêm olaf Cristiano Ronaldo mewn Cwpan y Byd.
Llun: Royal Belgian Football Association