Ymchwilio i gynghorydd tref ar ôl iddo gael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid
Mae Ombwdsmon Cymru yn cynnal ymchwiliad i gŵyn yn erbyn cynghorydd tref yn Sir Gâr ar ôl iddo gael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid fel moch a geifr wedi iddyn nhw gael eu darganfod yn byw mewn "amodau erchyll" ar ei dir.
Dywedodd Ombwdsmon Cymru wrth Newyddion S4C eu bod yn ymchwilio i weld a oedd Wayne Erasmus, 66 oed, wedi torri cod ymddygiad yn ei rôl fel cynghorydd tref.
Dyw'r ombwdsmon ddim wedi cadarnhau pryd mae disgwyl iddyn nhw ddod i benderfyniad, ond yn dweud eu bod nhw'n anelu at gwblhau pob ymchwiliad o fewn 12 mis.
Fe gafodd Erasmus ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe fis diwethaf ar ôl pledio'n euog i dri chyhuddiad o achosi dioddefaint i anifeiliaid wedi i 27 o eifr a moch oedd dan ei ofal gael eu darganfod mewn cynhwysydd (container) gydag wrin ac ysgarthion ynddo.
Roedd yn cadw'r anifeiliaid mewn cae oddi ar Ffordd Bolgoed ym Mhontarddulais, sydd ar y ffin rhwng Sir Gâr ac Abertawe.
Mae Wayne Erasmus, sy'n cynrychioli plaid Gwlad, yn gynghorydd tref yng Nghwmaman yn Sir Gaerfyrddin ac yn gynghorydd cymuned yn Nhre-gŵyr, ac ar gyngor Pengelli a Waungron yn Abertawe.
Wrth gael ei ddedfrydu fis diwethaf, clywodd Llys y Goron Abertawe bod Cyngor Abertawe wedi meddiannu'r anifeiliaid wedi iddyn nhw gael eu darganfod.
Bu farw sawl mochyn o fewn dyddiau iddyn nhw gael eu meddiannu.
Fe gafodd Erasmus gyfle i wella'r amodau cyn i'r anifeiliaid gael eu meddiannu, meddai'r erlyniad, ond nid oedd wedi gwneud hynny.
Clywodd y llys bod rhai anifeiliaid wedi cael eu cymryd oddi ar Erasmus yn dilyn ymweliadau blaenorol gan y cyngor, ond fe brynodd mwy a’u cadw “mewn amodau tebyg” cyn iddyn nhw hefyd gael eu meddiannu yn ddiweddarach.
Roedd anifeiliaid hefyd yn cael eu cadw mewn cae llawn “paledi o bren gyda darnau metel miniog” ac nid oedd gan y geifr a’r moch mynediad at ddŵr glan.