Elusen adar yn prynu ucheldir yn Sir Gâr i 'gefnogi coedwigoedd glaw Celtaidd prin'
Mae elusen adar RSPB Cymru wedi prynu ucheldir 96 hectar yng Ngallt-y-bere yng ngogledd Sir Gaerfyrddin gyda'r nod o geisio cefnogi coedwigoedd glaw Celtaidd prin, ac adar.
Wrth gyhoeddi hynny ddydd Mawrth, dywedodd yr elusen fod yr ardal yn "ddolen goll angenrheidiol" rhwng dau ddarn o dir sy'n berchen i'r RSPB yng ngwarchodfa Gwenffrwd-Dinas yn ucheldir yr Elenydd.
Yn ôl yr elusen, bydd modd i gadwriaethwyr ail gysylltu'r darnau o dir sydd wedi bod ar wahân, a hynny am y tro cyntaf mewn 60 mlynedd, gan alluogi bywyd gwyllt i symud ar draws y gwahanol ardaloedd, gan gryfhau'r eco-systemau yn y rhanbarth.
Mae'r ardal yn gartref i rywogaethau pwysig sy'n tarddu o wledydd ar hyd a lled y byd, ac mae coedwigoedd glaw Celtaidd yno, sy'n brin iawn.
Maen nhw'n bodoli yno oherwydd yr hinsawdd llaith, clòs a mwyn, yn ôl yr RSPB.
Wrth wella'r cysylltiad rhwng y darnau penodol o dir ar draws y warchodfa, mae RSPB Cymru yn gobeithio y bydd hynny o fudd i'r gwybedog brith, sef adar sy'n mudo yn yr haf ac sy'n hoff iawn o goedwigoedd derw.
Ymhlith yr adar eraill sy'n ffynnu yno, mae'r gwcw, canwr y coed (wood warbler) a chlep yr eithin (whinchat).
'Hudolus'
Mae Gallt-y-bere wedi ei brynu yn sgil "benthyciad dyngarol a chefnogaeth hael" gan filoedd o bobl a ymatebodd i'w hymgyrch codi arian, yn ôl yr elusen.
Dywedodd Jonathan Cryer, rheolwr safle'r RSPB yng Ngwenffrwd-Dinas: "Mae Gallt-y-bere wir yn lleoliad hudolus, ac rydw i wrth fy modd ein bod mewn sefyllfa i ehangu a gwella ansawdd bywyd gwyllt yr ardal."
"Mae prynu'r safle hwn yn gyfle i ni gryfhau'r goedwig hynafol, adfer rhywogaethau'r ucheldir a chreu'r amodau y mae bywyd gwyllt prin ei angen."
Bydd holiaduron yn cael eu cyhoeddi yr haf hwn, menter sy'n cael ei hariannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn ceisio cael rhestr lawn o'r holl rywogaethau sy'n byw yn y darn penodol o dir sydd wedi ei brynu.
Yn ôl yr elusen, mae'r datblygiad yn creu cyfleoedd hefyd i weithio'n agos gyda thenantiaid amaethyddol lleol.