Newyddion S4C

Dyn yn pledio’n euog o geisio lladd ei bartner oedd wedi ennill y loteri

The Sun 13/09/2021
S4C

Mae dyn 45 oed o’r Barri wedi pledio’n euog o geisio llofruddio ei bartner tair blynedd ar ôl iddi ennill £5.5m.

Ceisiodd Stephen Gibbs, lofruddio Emma Brown, 49 oed, yn eu cartref yn ardal Lakeside, Y Barri yn ystod y cyfnod clo ym mis Ionawr eleni.

Roedd rhaid i Ms Brown gael llawdriniaeth yn dilyn yr ymosodiad.

Yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, cyfaddefodd Mr Gibbs iddo geisio llofruddio Ms Brown.

Clywodd gwrandawiad cynharach bod Mr Gibbs wedi bod yn dreisgar yn y gorffennol.

Bydd Gibbs yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar ddydd Gwener 8 Hydref.

Dywedodd y barnwr, Ustus Twomlow, bydd Mr Gibbs yn gwynebu cyfnod "hir iawn" yn y carchar.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.