Charles Leclerc wedi ennill ras Formula 1 Prydain yn Silverstone

Charles Leclerc

Enillodd Charles Leclerc o Monaco yn ei Ferrari ras Formula 1 Prydain ddydd Sul.

Y Prydeinwyr George Russell a Lewis Hamilton ddaeth yn ail a thrydydd yn y ras yn Silverstone o flaen torf o thua 180,000.

Dyma’r fuddugoliaeth gyntaf ers bron i ddwy flynedd i Leclerc wrth i’r ras ddod i ben mewn anrhefn o dan reolaeth y car diogelwch.

Dyma ail fuddugoliaeth Ferrari mewn tair ras eleni a’r 250ed tro iddyn nhw ennill ras Formula 1.

I ychwanegu at ddrama’r diweddglo, mae Hamilton yn wynebu ymchwiliad ar ôl y ras am dorri rheolau’r faner felen sy’n nodi perygl.

Roedd Hamilton hefyd wedi derbyn cosb o bum eiliad am gychwyn yn rhy gynnar.

Llun: X/ScuderiaFerrari

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.