Nigel Farage 'heb ddatgan cefnogaeth ariannol gan droseddwr'

farage.jpg

Fe wnaeth Nigel Farage dderbyn cefnogaeth ariannol gan droseddwr yn y flwyddyn cyn iddo gael ei ethol i San Steffan, gan dorri rheolau ASau o bosib drwy fethu â datgan y gefnogaeth, yn ôl adroddiadau.

Fe wnaeth ei gyfaill hir-dymor George Cottrell ddarparu cyllid ar gyfer ymgyrch arweinydd Reform UK, gan gynnwys ar gyfer staffio a diogelwch, yn ôl The Sunday Times. 

Fe wnaeth Cottrell, 32 oed, gyfaddef i gyhuddiad o dwyll electronig  yn UDA yn 2017, ac fe gafodd ei garcharu am wyth mis ar ôl pledio'n euog i'r cyhuddiad.

Dywedodd y papur newydd fod Cottrell wedi recriwtio a thalu tri aelod o staff i weithio ar gyfryngau cymdeithasol Mr Farage cyn yr etholiad cyffredinol, ac wedi parhau i ganiatáu iddo ddefnyddio tŷ pum llawr yr oedd yn rhentu ger Palas Buckingham.

Wedi iddo ddod yn AS dros Clacton yn 2024, fe wnaeth Mr Farage gofrestru taith £9,000 i Wlad Belg a roddwyd gan Cottrell, gan ychwanegu £15,000 ar gyfer hediad domestig yn yr Unol Daleithiau. 

O dan rheolau a oedd mewn lle ar y pryd, roedd yn rhaid i ASau gofrestru unrhyw roddion gwerth mwy na £300 y gwnaethant eu derbyn yn y 12 mis blaenorol, oni bai "nad oedd modd yn rhesymol i eraill feddwl" bod y rhodd yn gysylltiedig â’u gweithgareddau gwleidyddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Farage: "Nid yw'n dod fel syrpreis fod The Sunday Times wedi dewis cyhoeddi'r stori ddi-sail a ffug hon, sy'n delio â chyfnod pan nad oedd Nigel Farage hyd yn oed yn wleidydd gweithredol heb sôn am un etholedig, o ystyried bod y papur newydd wedi cefnogi'r Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol diwethaf."

Mae Reform UK yn gwadu fod eu harweinydd wedi torri'r rheolau ymddygiad. 

Mae Mr Farage eisoes yn wynebu cwestiynau am rodd o £5 miliwn a dderbyniodd yn 2024.

Roedd y rhodd wedi dod gan Christopher Harborne, buddsoddwr mewn arian Crypto sydd yn byw yng Ngwlad Thai.

Os mai'r canlyniad yw ei fod wedi torri'r rheolau, fe allai Mr Farage wynebu sancsiynau gan gynnwys gwaharddiad o Dŷ'r Cyffredin a allai arwain at is-etholiad am ei sedd. 

Mae AS Clacton wedi rhoi sawl eglurhad am y rhodd, gan gynnwys ei fod ar gyfer talu am ei ddiogelwch personol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.