Strydoedd ar gau wrth i Taylor Swift briodi Travis Kelce yn Efrog Newydd
Mae miloedd o gefnogwyr ac enwogion wedi tyrru i ganol Efrog Newydd wrth i'r gantores Taylor Swift briodi'r chwaraewr pêl-droed Americanaidd Travis Kelce mewn seremoni fawr ym Madison Square Garden.
Roedd heddlu’r ddinas wedi cau strydoedd o amgylch y lleoliad wrth i fflyd o geir ddod â thua 1,000 o sêr y byd ffilm, cerddoriaeth a chwaraeon i’r achlysur ddydd Gwener.
Daeth llu o ffans Taylor Swift - ‘Swifties’ - i ymgynnull gerllaw er i'r tymheredd gyrraedd 37°C, gyda rhai cefnogwyr pybyr yn dringo sgaffaldiau i gael gwell golwg ar yr enwogion oedd yn mynychu’r briodas.
Ymhlith y gwestai oedd Hugh Grant, Jason Sudekis, Ed Sheeran, Gigi Hadid, Bradley Cooper a Dakota Johnson. Yr actor Adam Sandler oedd yn gweinyddu'r seremoni.
Roedd tipyn o ddirgelwch o gwmpas y briodas rhwng y gantores a'r chwaraewr pêl-droed Americanaidd a gafodd ei chynnal ar ddechrau penwythnos llawn dathliadau i nodi 250 mlynedd ers datgan annibynniaeth yr Unol Daleithiau.
Llun: Reuters