‘Os nad ydyn nhw’n edrych ar ôl eu hunain, pwy arall wnaiff?’: Rhybudd gan ferch ffermwr fu farw o ganser y croen
Mae merch ffermwr fu farw o ganser y croen yn annog pobl sy’n gweithio yn yr awyr agored i ddiogelu eu croen.
Gyda chyfnodau o dywydd poeth a heulog wedi bod yn ddiweddar, a rhagor ar y gorwel dros y dyddiau nesaf, gall ffermwyr sy’n treulio oriau hir yn yr awyr agored fod yn fwy agored i belydrau UV.
Mae Elliw Griffith, sy’n wreiddiol o Benisarwaun ac sydd bellach yn byw yn Nhŷ Croes, Ynys Môn, wedi rhannu hanes ei thad, Dylan Griffith, oedd yn ffermwr ar hyd ei oes.
Cafodd ddiagnosis o felanoma am y tro cyntaf yn 2001, ar ôl i fam Elliw sylwi ar fan geni tywyll ar ei fraich.
Cafodd y man geni (mole) ei dynnu ac fe gafodd y teulu wybod bod y canser wedi mynd.
Ond 14 mlynedd yn ddiweddarach, fe ddaeth ei thad o hyd i lwmp o dan ei gesail.
Dangosodd profion fod y melanoma wedi dychwelyd ac fe gafodd driniaeth cemotherapi ar ffurf tabledi.
Dywedodd Elliw fod y driniaeth wedi gweithio’n dda ar y dechrau, ond bod y canser wedi lledaenu yn ddiweddarach.
“O rywbeth bach ar ei fraich o, 14 mlynedd wedyn mi ddaeth yn ôl, a mi ddaeth yn ôl yn ffyrnig,” meddai.
Bu farw ei thad o’r clefyd yn ddiweddarach.
‘Ti ddim yn meddwl amdano fo’
Dywedodd Elliw fod ei thad wedi treulio oriau hir yn yr awyr agored yn ystod ei oes fel ffermwr.
“Mae o’r un fath efo pob amaethwr neu rywun sy’n gweithio allan yn yr awyr agored,” meddai.
“Ti allan yn cynaeafu, yn gwneud silwair, yn gwneud gwair, mewn crys neu mewn llewys byr.
“Ti ddim yn meddwl amdano fo. Mae dy feddwl di mor brysur efo’r pethau sydd eisiau eu gwneud a gwaith y dydd.
“Ti ddim yn meddwl efallai bod rhaid rhoi eli haul.”
Dywedodd ei bod yn hawdd peidio â sylweddoli bod y croen wedi llosgi tan ddiwedd y diwrnod.
“Ti’n dod adra, mae dy drwyn di’n goch, mae dy glustiau di’n goch ac mae cefn dy law di’n goch.
“Wedyn ti’n sylweddoli, ‘Waw, ia, dwi wedi llosgi’.
“Dyna ydy’r drwg. Ti’n gwneud y niwed i dy groen di.”
Siaradodd Elliw am brofiad ei theulu wrth ymddangos ar banel yng Nghynhadledd Ffermio Cynaliadwy NFU Cymru, yn ddiweddar.
Dywedodd ei bod wedi defnyddio’r cyfle i annog pobl yn y diwydiant amaeth i edrych ar ôl eu hiechyd.
“Bydd y fferm yna ar ôl nhw, ond un ohonyn nhw sydd yna,” meddai.
“Os nad ydyn nhw’n edrych ar ôl eu hunain, pwy arall wnaiff?
“Dan ni wastad yn dweud fel ffermwyr ein bod ni’n edrych ar ôl y tir ar gyfer y genhedlaeth nesaf."
Dywedodd Elliw ei bod yn deall bod ffermwyr yn gweithio oriau hir ac yn gallu bod yn amharod i fynd at y meddyg.
“Os ti’n gweld ffermwr yn cerdded mewn drwy ddrws y doctor, ti’n gwybod bod nhw’n wael,” meddai.
“Dydyn nhw ddim yn mynd yna am ddim byd. Mae yna reswm pam maen nhw’n cerdded i mewn.”
Mae Elliw bellach yn fwy gwyliadwrus o unrhyw newidiadau i’w chroen ei hun ac mae wedi cael man geni wedi ei wirio gan feddyg.
Mae’n annog ffermwyr i gadw potel o eli haul yn y tractor er mwyn sicrhau ei fod wrth law.
“Os oedd pobl yn cymryd dau funud allan o’u diwrnod i roi eli haul ar eu croen, ti’n arbed lot o niwed,” meddai.
77% yn llosgi yn yr haul
Mae arolwg diweddar gan yr elusen Melanoma Focus fod 77% o weithwyr amaethyddol y DU yn llosgi yn yr haul o leiaf unwaith y flwyddyn.
Dywedodd 52% eu bod yn anaml neu byth yn defnyddio eli haul yn ystod yr haf, tra bod 38% yn anaml neu byth yn gorchuddio eu croen gyda dillad neu het haul.
Mae tua 19,400 o achosion newydd o felanoma yn cael eu cofnodi yn y DU bob blwyddyn, gan gynnwys tua 1,070 yng Nghymru, yn ôl ffigurau a ddarparwyd gan Ofal Canser Tenovus.
Melanoma yw’r pumed canser mwyaf cyffredin yn y DU.
Dywedodd Rhian Jones, Uwch Nyrs y Llinell Gymorth yng Ngofal Canser Tenovus wrth Newyddion S4C: “Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch croen, ewch at eich meddyg teulu cyn gynted â phosib.
“Mae llawer o feddygon teulu bellach yn gallu anfon llun at ddermatolegydd arbenigol, sy’n gallu golygu diagnosis, ac unrhyw driniaeth ddilynol, yn gynt o lawer.
“Dylai unrhyw newidiadau i fannau geni gael eu gwirio gan feddyg.”
Cyngor Tenovus yw ceisio cysgod, yn enwedig rhwng 11.00 a 15.00, gwisgo dillad sy’n gorchuddio’r croen a defnyddio eli haul gydag SPF o 30 o leiaf.
Dylai pobl hefyd wirio eu croen yn rheolaidd a mynd at feddyg os oes unrhyw fan geni neu smotyn yn newid o ran maint, siâp neu liw, neu’n dechrau cosi neu waedu.
