Gwahardd cyn-bennaeth am newid hyd tymor ysgol er mwyn mynd ar wyliau moethus
Mae cyn-brifathrawes oedd yn rhan o gyfres realiti am un o ysgolion Caerdydd wedi cael ei gwahardd rhag dysgu ar ôl iddi newid dyddiadau tymor ysgol i gael mynd ar wyliau moethus.
Cafodd Joy Ballard, 59, ei chosbi gan dribiwnlys addysg am ei hymddygiad “annerbyniol” tra’n bennaeth ar Ryde Academy, ysgol ar Ynys Wyth yn ne Lloegr.
Yn ogystal ag addasu hyd dymhorau i gyd-fynd â’i gwyliau ar long bleser, fe brynodd Ballard gar Peugeot gydag arian yr ysgol a’i ddefnyddio ar gyfer teithiau personol. Manteisiodd ar bwrs yr ysgol i brynu peiriant karaoke, dau deledu ac offer gwersylla hefyd.
Daeth Ballard i lygad y cyhoedd yn 2015 yn ystod y gyfres Channel 4, Educating Cardiff. Ar y pryd, roedd yn bennaeth ar Ysgol Uwchradd Willows yn ardal Tremorfa, ble roedd wedi llwyddo i godi safonau yn sylweddol ers cymryd yr awenau.
Fe ddenodd y brifathrawes gryn sylw yn sgil y rhaglen - oedd yn rhan o gyfres o raglenni tebyg - gan ddod yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau Prydeinig ac ennill gwobr addysg amlwg. Yn fuan wedyn, derbyniodd swydd yn Ryde Academy.
Newid dyddiadau
Clywodd gwrandawiad asiantaeth arolygu addysg Lloegr, y TRA, fod Ballard wedi newid dyddiadau tymor yr ysgol o gwmpas gwyliau Nadolig 2023-24 fel eu bod yn siwtio’i chynlluniau i fynd ar fordaith.
Fe ddywedodd un tyst wrth y panel disgyblu fod y newidiadau wedi cael “dylanwad sylweddol” ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol.
“Ym marn y panel, dangosai’r dystiolaeth fod Mrs Ballard wedi newid dyddiadau’r tymor ysgol yn bwrpasol ac yn anonest er ei budd personol,” meddai’r dyfarniad, gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener.
Daeth y tribiwnlys i’r casgliad fod y cyn-brifathrawes, a benderfynodd ymddeol yn haf 2024 yn sgil cwynion amdani, wedi ymddwyn yn annerbyniol.
Mynnodd Ballard, er hynny, na fyddai’n gwneud unrhyw beth yn wahanol pe bai’n cael y cyfle, ar wahân i osgoi defnyddio car yr ysgol ar gyfer dibenion personol.
Fe gyflwynodd tua 50 o negeseuon cefnogol - llythyrau, e-bost a sylwadau oddi ar y cyfryngau cymdeithasol - i ddangos effaith ei gwaith ar ddisgyblion a rhieni.
“Dydw i ddim yn un am ddilyn rheolau, dwi’n mynd yn groes i’r graen er mwyn y disgyblion,” meddai.
Er iddyn nhw gydnabod ei record gref fel pennaeth, penderfynodd y panel y dylai Ballard gael ei gwahardd rhan dysgu mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysgiadol tebyg yn Lloegr, ond bydd modd iddi wneud cais i godi’r gwaharddiad ymhen dwy flynedd.
Llun: Joy Ballard (Channel 4)

