Teyrngedau i athro prifysgol a fu farw yn Eryri

Roedd Gregor McLennan yn darlithio ym Mhrifysgol Bryste.
Marwolaeth Eryri 25/6/26 - Gregor McLennan

Mae teulu Gregor McLennan, a fu farw ar ôl mynd ar goll yn Eryri, wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd corff yr athro yn Ysgol Seicoleg, Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol Prifysgol Bryste ei ganfod ar fynydd Carnedd y Filiast ddydd Llun.

Y tro diwethaf iddo gael ei weld oedd ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn ddydd Iau, 25 Mehefin a dechreuodd yr heddlu chwilio amdano y diwrnod canlynol.

Mewn datganiad, dywedodd teulu'r dyn 74 oed: "Bu Greg farw yn y lle roedd yn teimlo mwyaf bywiog ac roedd y golygfeydd olaf iddo eu gweld yr un mor rhyfeddol ag ef."

"Mae'n boenus iawn gwybod yr oedd ef ar ei ben ei hun ar y mynydd tra ein bod yn chwilio amdano" meddai ei deulu.

"Ond yn gynnar nos Lun, daethom o hyd iddo ac roedd ychydig o heddwch yn hynny, nid yn unig i ni, ond i'w enaid hefyd...

"Roedd Dad yn ddyn angerddol ac ysbrydoledig ac fe wnaeth ei gynhesrwydd gyffwrdd â nifer o bobl.

“Fe wnaeth ein ffrindiau a’n hanwyliaid roi popeth o’r neilltu i gynnig help ar adeg ofnadwy, rhywbeth y byddwn wastad yn ddiolchgar amdano.”

Ar ôl astudio gradd israddedig, dychwelodd Yr Athro Gregor McLennan i Brifysgol Bryste i ddarlithio yn 1997.

Yn ystod ei yrfa yn y brifysgol, wnaeth ymgymryd â rolau gwahanol o fewn yr Ysgol Seicoleg, Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor a Phrofost Prifysgol Bryste, Judith Squires, fod “ei garedigrwydd deallusol, ei drylwyredd a’i ymrwymiad i ddadl gyhoeddus wedi cael effaith barhaol ar fyfyrwyr, cydweithwyr ac ar y sefydliad yn ehangach”.

“Yn ysgolhaig nodedig ac yn gydweithiwr gwerthfawr, gwnaeth gyfraniad rhagorol i gymdeithaseg ac i’r gymuned academaidd yma ym Mhrifysgol Bryste ac ar draws y byd,” meddai.

Mae teulu Gregor McLennan a’r heddlu wedi diolch i’r gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd a helpodd gyda’r gwaith chwilio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.