Llanbed: Sioe Amaethyddol yn ehangu’r cystadlu
Bydd un o sioeau amaethyddol hanesyddol Cymru yn ehangu eleni, gan gyflwyno sawl adran newydd i ateb y galw gan arddangoswyr.
Mae adrannau dofednod, defaid Rylands lliw a defaid Charmoise ymhlith yr arlwy newydd yn Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion.
Fe fydd y sioe yn cael ei chynnal am y 136ain tro ddydd Sadwrn ar gaeau Pontfaen ar gyrion tref Llanbedr Pont Steffan.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd cadeirydd y sioe, Dai Davies o fferm Gwarffynnon yn Silian, fod cyflwyno adrannau gwahanol yn “rhywbeth newydd i ymwelwyr allu ei weld.”
Daw’r newid ar ôl galwadau am ehangu’r adrannau oedd ar gael i gystadleuwyr, yn ôl Dai Davies.
“Ni fel sioe yn agored i newidiadau ac ar ôl i bobl holi am ychwanegu’r adrannau, ni’n falch o allu cynnig rhain iddyn nhw.
“Dwi ddim yn gyfarwydd ag adrannau newydd y defaid ond yn edrych ‘mlaen i’w gweld.”
‘Her’ afiechydon
Wrth siarad am heriau cynnal sioeau amaethyddol, cydnabyddodd fod afiechydon parhaus fel ffliw ceffylau yn “her”.
Ychwanegodd fod “rhaid dilyn y rheolau gan y llywodraeth – ni’n argymell brechu ceffylau.”
Dywedodd hefyd ei bod yn “bwysicach nag erioed i [ffermwyr] fynd i sioeau lleol i allu dysgu sut i ddygymod â sefyllfaoedd ac i drafod unrhyw heriau.”
“Mae’n golygu nad yw ffermwyr yn teimlo ar ben eu hunain – a problem shared is a problem halved,” meddai.
Mae cae’r sioe wedi ei leoli nepell o ganol tref Llanbed ac yn ôl Dai Davies maen nhw’n “ffodus” o hyn.
“Gan ein bod mor agos i’r dref, mae’n gyfle i addysgu ymwelwyr a phobl sydd ddim yn ymwneud â chefn gwlad.
“Mae’n bwysig cynnal y sioe i ffermwyr allu dangos beth sydd gyda ni yng nghefn gwlad – mae e fel ffenest siop i bobl.”
‘Rhywbeth at ddant pawb’
Ynghyd â’r adrannau newydd, bydd modd gweld adrannau megis y ceffylau, crefft a da byw.
“Bydd 10 o fridiau o wartheg, 23 o fridiau defaid ynghyd â phabell llawn nwyddau ac arddangosfa hen beiriannau – heb anghofio cystadleuaeth tynnu’r gelyn,” meddai.
“Ma' bach o bopeth at ddant pawb yn y sioe ac yn gyfle i bobl gael diwrnod bant o’r gwaith.”
