Uchder yr Azteca yn 'her allweddol' i Loegr wrth wynebu Mecsico
Gyda Lloegr yn wynebu Mecsico yng Nghwpan y Byd yn oriau mân fore Llun, mae arbenigwyr o Brifysgol Met Caerdydd yn dweud y gallai chwarae ar uchder (altitude) mor uchel fod yn ffactor allweddol yn y gêm.
Fe fydd Lloegr yn wynebu Mecsico yn rownd yr 16 olaf yng Nghwpan y Byd am 01:00 fore Llun.
Un o'r ffactorau a allai fod yn broblem i Loegr yn y gêm yw uchder, gyda'r gêm yn cael ei chwarae yn stadiwm eiconig Estadio Azteca yn Ninas Mecsico, sydd 7,720 troedfedd uwchben lefel y môr.
Ar yr uchder yma, mae pwysau barometrig y Ddaear yn is, gan wneud yr aer yn deneuach gan olygu fod llai o ocsigen yn mynd i mewn i lif y gwaed gyda phob anadl.
Fe allai hyn effeithio ar chwaraewyr pêl-droed proffesiynol, gan gynnwys ffactorau fel cyfradd y galon uwch, prinder anadl, a blinder yn gyflymach.
Y stadiwm sydd â'r uchder uchaf yn y gynghrair bêl-droed yw'r Hawthorns, stadiwm West Bromwich Albion, sydd ag uchder o 551 troedfedd ac sy'n 14 gwaith yn agosach at lefel y môr na'r Azteca.
Mae'r gwrthwynebwyr, Mecsico, wedi chwarae eu holl gemau hyd yma gartref, gyda'r garfan wedi arfer chwarae o dan amodau o'r fath.
Maen nhw wedi chwarae 14 o gemau yn yr Azteca ers 2020, gan sgorio 23 gôl ac ildio dim ond pedair.
Mae uchder yn ffactor sydd yn effeithio ar chwaraewyr mewn sawl camp wahanol, ac yn her sydd ddim yn anghyfarwydd i chwaraewyr rygbi Cymru.
Fe fydd Cymru yn gorfod wynebu De Affrica bob yn ail flwyddyn hefyd ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, ac er mai wrth y môr yn Durban bydden nhw'n wynebu'r Springboks yn ddiweddarach y mis hwn, mae'n bosib y byddent yn chwarae yn Stadiwm Ellis Park yn Johannesburg eto yn y dyfodol, sydd ag uchder o tua 1,750m (tua 5,740 troedfedd).
Mae chwaraewyr Cymreig yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wedi wynebu'r her unigryw sawl tro yn ogystal wrth wynebu tîm y Lions yno dros y blynyddoedd diwethaf.
'Llai o ocsigen'
Dywedodd Elliott Jenkins, Ymchwilydd PhD mewn Ymarfer a Ffisioleg Amgylcheddol a'r Athro Mike Stembridge, sydd yn athro mewn Cardiofasgiwlar a Ffisioleg Amgylcheddol o Brifysgol Met Caerdydd fod y broblem yn dechrau gyda'r ocsigen.
"Ar uchder, mae canran yr ocsigen yn yr aer yr un fath ag ar lefel y môr, ond mae'r pwysau barometig yn is. Mae hyn yn golygu fod pob anadl yn cynnwys llai o foleciwlau ocsigen, gan leihau'r pwysau sy'n gyrru ocsigen o'r ysgyfaint i'r gwaed," meddai'r ddau.
"Ar gyfer chwaraewyr, mae'r ateb yn syml: mae gan y corff lai o ocsigen ar gael i gefnogi ymarfer corff dwys."
Ychwanegodd y ddau fod chwaraewyr yn gorfod anadlu'n galetach er mwyn gwneud i fyny am hyn, ac mae cyfradd eu calon yn cynyddu.
"Nid y canlyniad o reidrwydd yw y bydd chwaraewyr yn colli eu cyflymder ar unwaith, ond fod pob ymdrech yn mynd yn anoddach i'w ail-adrodd," medden nhw.
Dywedodd y ddau hefyd fod tystiolaeth o gystadlaethau yn y gorffennol yn cefnogi hyn.
Yn ôl ddau, yn ystod Cwpan y Byd 2010 yn Ne Affrica, roedd gemau a gafodd eu chwarae ar lefel uwch na 1,200m yn gysylltiedig â chyfanswm pellter rhedeg is.
"Nid yw uchder yn cael gwared â gallu chwaraewr i berfformio, ond fe all ei wneud y rhannau sydd fwyaf heriol yn gorfforol yn anoddach i'w hail-adrodd," medden nhw.
"Mewn byd delfrydol, fe fyddai timau yn treulio o gwmpas pythefnos ar yr uchder yma cyn y gystadleuaeth."
Ond dim ond ychydig o ddyddiau fydd gan Loegr i wneud hynny cyn y gêm yn Ninas Mecsico.
"Fe fydd ychydig o ddyddiau yn Ninas Mecsico yn gallu helpu chwaraewyr Lloegr i ddechrau addasu, ond ni fydd yn darparu'r un amddiffyniad ag arhosiad hirach," medden nhw.
"Nid yw perthynas Mecsico gyda'r Azteca am yr awyrgylch, sŵn y dorf a'r gefnogaeth gartref yn unig, mae ganddyn nhw fanteision corfforol hefyd.
"All Lloegr baratoi ar gyfer yr uchder? Gallant. Oes modd iddyn nhw addasu yn llawn gyda dim ond ychydig o ddyddiau? Mae hynny bron yn amhosib.
"Ni fydd uchder yn penderfynu pob pàs, tacl neu saethiad. Ond dros gyfnod o 80 neu 90 munud, fe all newid y ffactorau a all newid gêm."
