Y dreth dwristiaeth sydd wedi bod yn Ffrainc ers dros ganrif
Y dreth dwristiaeth sydd wedi bod yn Ffrainc ers dros ganrif
Mae rhai o gynghorau Cymru yn paratoi i benderfynu a ddylent gyflwyno treth dwristiaeth o 2027 ymlaen, gyda rhai eisoes wedi dechrau ymgynghori ar y cynllun.
Byddai'r dreth yn golygu ffi ychwanegol i ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety twristiaeth fel gwestai, gwely a brecwast, llety hunanarlwyo, carafanau a meysydd gwersylla.
Wrth i'r drafodaeth barhau yng Nghymru, bu Siôn Jenkins, Prif Ohebydd y Byd ar Bedwar, yn Les Gets yn Alpau Ffrainc i weld sut mae'r taxe de séjour wedi bod yn gweithio mewn ardal sy'n dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth ers dros ganrif.
Twristiaeth yn Les Gets
Mae Les Gets yn gyrchfan boblogaidd sy’n denu ymwelwyr drwy’r flwyddyn, gyda sgïo yn y gaeaf a gweithgareddau awyr agored yn yr haf.
Mae’r economi leol yn dibynnu’n helaeth ar y diwydiant, yn ôl perchnogion busnesau yn yr ardal.
“Heb dwristiaeth, fyddai dim byd yma. Ry’n ni’n byw yn bennaf ar dwristiaeth,” meddai Fabien Tissot, sy’n rhedeg bar a bwyty yn y pentref.
Mae Fabien yn dweud bod y dreth yno yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol i wella gwasanaethau a hybu twristiaeth.
"Wel, mae ‘di bodoli am amser hir iawn, ac mae’n caniatáu ariannu'r swyddfa dwristiaeth, yn fwy na dim. Hefyd, mae’n caniatáu adran hamdden y Cyngor i gynnal y diwydiant twristiaeth y tu hwnt i’r gyllideb arferol er mwyn gwerthu Les Gets, cynnal gweithgareddau gydol y flwyddyn, a denu pobl yma."
Mae rhanbarth Savoie yn denu rhwng 50 a 60 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, gyda'r mwyafrif yn dod i sgïo yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae Cyngor Gwynedd ymhlith y cynghorau sy’n cynnal ymgynghoriad ar hyn bryd, ac mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi'r sir hefyd, gyda thua 15% o'r swyddi'n ymwneud â'r sector, canran debyg i'r ardal o amgylch Les Gets.
Un sy'n gyfarwydd iawn â'r dreth yn Les Gets yw Bedwyr ap Gwyn, sydd wedi dod â grwpiau i'r ardal ers dros ugain mlynedd fel rhan o'i fusnes gweithgareddau awyr agored.
“Mae’n arian yn mynd yn bell iawn yna. Mae’n ariannu cynnal a chadw’r llethre, llwybrau cerdded, llwybrau beicio, llwybrau sgïo, a wedyn mae’n ariannu pethe lawr yn y dre. Mae trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i dwristiaid a bobl leol - yr harddwch - y blode.”
Mae Bedwyr yn gweld y dreth fel rhywbeth gall ymwelwyr a bobl leol fantesio arno.
“Pobl sy’n bia gwestai, restaurants a phobl sy’n rhedeg busnesau tebyg i fi sydd yn elwa’n uniongyrchol o dwristiaeth. Ond beth am wedyn gweddil y bobl sydd ddim yn gweithio yn y byd yna? Be ma nhw’n cal allan o dwristiaeth yw eu pentre nhw’n brysurach, mwy o sbwriel, mwy o draffic, methu parcio. Wel o leia trwy gasglu treth dwristiaeth ma’n elwa pawb yn y gymuned gyda’i gilydd te, dim jyst rheina sy’n gweithio yn y diwydiant.”
Er hynny, mae rhai yn dweud nad yw’r dreth yn datrys pob problem yn Ffrainc, ac mae dal pryderon effaith twristiaeth ar gymunedau lleol mewn rhai ardaloedd.
Dywedodd Michel Montessuit: “Mae ‘na lawer o bobl yn yr ardal, o ran gor-dwristiaeth, sydd ond yn meddwl am fusnes ac sy’n rhoi pwyslais ar lawer o bethau sydd â dim i’w wneud â’n traddodiadau a’n harferion.
“‘Dyw'r dreth dwristiaeth yn Ffrainc ddim yn rhywbeth pwysig, ac rwy'n argyhoeddedig bod mwy na hanner y boblogaeth ddim hyd yn oed yn gwybod ei bod hi’n bodoli.”
Ac roedd gan Michel gyngor i Gymru.
“Bysen i'n dweud wrth y Cymry i fynnu gwybod i ble mae'r dreth hon yn mynd a sut mae'n cael ei gwario, ac os caiff ei gwario'n dda, bydd hi’n fantais fawr i Gymru.”
Y sefyllfa yng Nghymru
O 2027 ymlaen, bydd gan gynghorau Cymru’r dewis i gyflwyno treth dwristiaeth.
Byddai’r cynigion yn golygu ffi o £1.30 y noson (ynghyd â TAW) ar ymwelwyr sy’n aros mewn gwestai, llety hunanarlwyo a charafanau, gyda chyfradd is ar gyfer hosteli a meysydd gwersylla.
Mae Dr Rhys ap Gwilym, darlithydd economeg, wedi ymchwilio i effaith bosibl treth dwristiaeth ar Wynedd ac wedi cymharu'r sir ag ardaloedd twristaidd tebyg, gan gynnwys rhannau o'r Alpau.
“Ma’r taxe de sejour di bod mewn lle yn Ffrainc ers dros ganrif. Ond ma hwnna yn eithriad. Ma' trethi twristiaeth 'di cael eu cyflwyno mewn llawer mwy o lefydd ers troad y ganrif. Ma’r ardoll di bod yn llwyddiant yn gyffredinol yn y cyrchfannoedd yna.
“Ma Llywodraeth Cymru wedi neud amcangyfrif bydd yr ardoll yn codi rhywbeth o gwmpas £30 miliwn ledled Cymru os ydi o’n cael ei gyflwyno gan bob awdurdod lleol ar draws y wlad. Yma yng Ngwynedd dwi meddwl bod yr amcangyfrif yn agosach at £3 miliwn o refeniw.”
Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno'r dreth, tra bod Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn yn ymgynghori ar y cynllun.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yn rhaid yn ôl y gyfraith i unrhyw refeniw o'r ardoll gael ei wario ar wasanaethau a seilwaith sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, ac y bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi adroddiadau blynyddol yn nodi sut mae'r arian wedi'i ddefnyddio.
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Croeso am dâl? nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer, ac YouTube.