Y tafarndai yng Nghymru fydd ar agor ar gyfer gêm Lloegr a Mecsico yng Nghwpan y Byd

lloegr.jpg

Fe fydd sawl tafarn yn aros ar agor tan 05:00 yng Nghymru fore Llun i roi cyfle i gefnogwyr wylio gêm Lloegr yn erbyn Mecsico yng Nghwpan y Byd yn rownd yr 16 olaf.

Serch hynny mae cannoedd o dafarndai eraill - yng Nghymru ac yn Lloegr - wedi cadarnhau na fyddwn nhw ar agor ar gyfer yr achlysur. 

Fe gyhoeddodd Syr Keir Starmer ddydd Iau y byddai tafarndai yng Nghymru a Lloegr yn cael aros ar agor tan 05:00, gyda'r gic gyntaf am 01:00 fore Llun (18.00 nos Sul yn Ninas Mecsico). 

Roedd ASau wedi galw am hyblygrwydd y tu hwnt i'r oriau agor estynedig ar gyfer tafarndai, sef 02:00 sydd eisoes ar waith ar gyfer gemau Lloegr yn ystod Cwpan y Byd.

Dyma'r tafarndai sydd wedi cadarnhau hyd yma eu bod nhw ar agor yng Nghymru i ddangos y gêm:

  • Yr Harbwr, Rhyl
  • Mill House, Brychdyn
  • Man of Gwent, Casnewydd
  • Tafarn Parc-y-Prior, Malpas
  • Claude, Caerdydd
  • Three Elms, Caerdydd
  • Dunvant, Abertawe

Mae pob un o'r tafarndai rheini yn eiddo i Greene King, sydd â 2,600 o dafarndai, bwytai a gwestai ar draws y DU, ac sydd wedi dweud y bydd dros 600 o dafarndai ar draws Lloegr hefyd ar agor yn hwyr i ddangos y gêm. 

Er hyn, mae rhai tafarndai yn dweud fod problemau gyda threfnu staff a'r ffaith eu bod wedi eu lleoli mewn ardaloedd preswyl yn golygu y byddant yn cau cyn 05:00. 

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Wetherspoons mai "dim ond pump allan o'r 800 o dafarndai Wetherspoons fydd ar agor ar gyfer y gêm," a pob un o'r rheini yn Lloegr.

Dywedodd Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain (BBPA) yn gynharach eleni fod nifer y tafarndai yn y DU wedi gostwng o 46,829 yn 2020 i 44,656 yn 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.