Tân mawr yn hen orsaf bŵer Aberddawan ger y Barri
Tân mawr yn hen orsaf bŵer Aberddawan ger y Barri
Mae criwiau tân wedi cael eu galw i dân yn hen orsaf bŵer Aberddawan ger y Barri fore dydd Iau.
Roedd fflamau a chymylau o fwg i'w gweld yn codi o'r adeilad.
Nid yw'r hen orsaf wedi cael ei defnyddio ers nifer o flynyddoedd.
Mewn datganiad, dywedodd cwmni CCR Energy sydd yn gyfrifol am y safle: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud â thân ar ein safle.
"Ar hyn o bryd mae'r sefyllfa'n cael ei rheoli gan y gwasanaethau brys a'n timau sydd ar y safle.
"Mae'r holl bersonél yn ddiogel. Ein blaenoriaeth yw diogelwch a lles pawb sy'n gysylltiedig.
"Byddwn yn darparu diweddariadau pellach wrth i ragor o wybodaeth fod ar gael. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth."
Mae'r gwasanaeth tân yn cynghori pobl leol i gau eu ffenestri am y tro o achos y mwg wrth i swyddogion ymateb i'r tân.
Fe gafodd yr adeilad ei adeiladu yn 1964 ac roedd ar agor tan 2020.
Gorsaf Aberddawan oedd yr orsaf bŵer glo olaf yng Nghymru cyn iddi gau.
Ar 12 Mehefin eleni fe gafodd simdde 152 metr o uchder ei ddymchwel mewn ffrwydrad oedd dan reolaeth.
Cafodd ei ddymchwel er mwyn gwneud lle i barc egni gwyrdd newydd yn yr ardal.