Merthyr: Cwest yn clywed fod menyw wedi marw o anaf difrifol i'w phen

Zoe Dixon

Mae cwest wedi clywed fod menyw wedi marw o anaf difrifol i'w phen ar ôl i swyddogion gael eu galw i ymosodiad ym Merthyr Tudful.

Clywodd gwrandawiad yn Llys Crwner Pontypridd ddydd Iau fod Zoe Dixon, 35 oed, wedi marw yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn y digwyddiad mewn tŷ ar Heol Rocky yn y dref.

Dywedodd y Crwner Cynorthwyol Rachel Knight y byddai cwest yn cael ei agor i farwolaeth Ms Dixon gan fod rheswm i gredu bod ei marwolaeth yn "drawmatig ac annaturiol".

Dywedodd Heddlu De Cymru bod swyddogion wedi cael eu galw i ymosodiad difrifol ar fenyw 35 oed ym Mhenydarren, Merthyr Tudful, ychydig cyn hanner nos ar 15 Mehefin.

Cafodd Ms Dixon ei chludo i'r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach o ganlyniad i'w hanafiadau.

Darganfod corff dyn

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod dyn 39 oed wedi ei ddarganfod yn farw yn dilyn hynny yng Nghronfa Ddŵr Pontsticill ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn oriau mân y bore ar 16 Mehefin.

Mae'r ymchwiliad bellach yn cael ei drin fel achos o ladd, ychwanegodd y llefarydd.

Clywodd y gwrandawiad agoriadol ddydd Iau fod Ms Dixon wedi cael ei chludo i'r ysbyty ar 16 Mehefin gydag "anafiadau trawmatig difrifol i'r pen".

Clywodd y llys fod cyflwr y fenyw 35 oed wedi "dirywio" a'i bod wedi marw ar 22 Mehefin.

Daeth archwiliad post-mortem cychwynnol i'r canlyniad mai achos ei marwolaeth oedd anaf di-finiog ('blunt force') i'r pen.

Dywedodd y crwner: "Yn seiliedig ar y dystiolaeth rwyf wedi'i chlywed, rwy'n fodlon ei bod yn angenrheidiol agor cwest i farwolaeth Zoe Marie Dixon.

"Mae rheswm i gredu bod y farwolaeth yn un drawmatig ac annaturiol.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi fy nghydymdeimlad â theulu Zoe Dixon yn y cyfnod anodd hwn."

Nid oes dyddiad wedi ei osod ar gyfer y cwest llawn hyd yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.