Rygbi: Louis Rees-Zammit yn dychwelyd i’r asgell ar gyfer her Ffiji

Louis Rees Zammit (Huw Evans)

Mae Steve Tandy wedi enwi Louis Rees-Zammit ar yr asgell ar gyfer gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd yn erbyn Ffiji ddydd Sadwrn.

Ar ôl chwarae yn safle’r cefnwr drwy’r Chwe Gwlad, bydd Rees-Zammit yn dychwelyd i’r asgell ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda Blair Murray yn hawlio’r crys rhif 15.

Bydd y profiadol Adam Beard hefyd yn cychwyn y gêm yn dilyn anaf i’r clo Dafydd Jenkins.

Yn y rheng flaen, mae Rhys Carre wedi’i enwi yn safle’r prop pen rhydd, gan ymuno â'r prop Dillon Lewis a’r bachwr a chapten Dewi Lake, a chwaraeodd yn y fuddugoliaeth 33-31 yn erbyn y Barbariaid yn Allianz Twickenham ddydd Sadwrn diwethaf.

Fe allai'r prop Ben Warren ennill ei gap gyntaf dros Gymru os y bydd yn dod oddi ar y fainc.

Dyma yw’r gêm gyntaf yng nghystadleuaeth newydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd, ble fydd timau o hemisffer y gogledd yn herio timau o hemisffer y de dros gyfnodau’r haf a’r hydref.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Steve Tandy. “Mae wedi bod yn wych i ddod yn ôl at ein gilydd a pharatoi am y gemau yma.

"Rydym eisiau parhau i adeiladau ar y Chwe Gwlad ac adeiladu ar benwythnos diwethaf hefyd. Rydyn ni wedi creu llawer o fomentwm ac rydym yn gobeithio cychwyn gyda thempo ddydd Sadwrn.”

Er ei bod yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae’r gêm yn cael ei chyfrif fel gêm gartref i Ffiji am eu bod yn chwarae eu gemau yn y gystadleuaeth dramor eleni.

Ychwanegodd Tandy: “Rydyn ni’n caru bod yng Nghymru ar gyfer ein gemau.

"Mae’r gefnogaeth yn golygu lot fawr i ni ac mae ein cefnogwyr yn anhygoel yn y ffordd y maen nhw’n dangos eu cefnogaeth i’r tîm. Rydyn ni’n gyffrous i fod yng Nghaerdydd i ddechrau Pencampwriaeth y Cenhedloedd.”

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.