Syr Keir Starmer yn ymddiheuro am achosion hanesyddol o fabwysiadu gorfodol

Keir Starmer

Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi ymddiheuro’n ffurfiol i deuluoedd gafodd eu heffeithio gan achosion hanesyddol o fabwysiadu gorfodol.

Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau, dywedodd fod yr hyn ddigwyddodd yn “staen ar ein hanes”.

Dywedodd ei fod wedi ei chael hi’n anodd darllen tystiolaethau’r rhai gafodd eu heffeithio, yn enwedig fel tad.

“Ddylai’r hyn ddigwyddodd iddyn nhw, ac i ddegau o filoedd o famau, plant a theuluoedd, fyth fod wedi digwydd,” meddai.

Dywedodd fod mamau, llawer ohonyn nhw’n ifanc, yn agored i niwed a heb gefnogaeth, wedi cael eu gorfodi, eu bwlio neu eu camarwain i gredu nad oedd ganddyn nhw ddewis ond cael eu plant wedi’u cymryd oddi arnyn nhw.

Ychwanegodd nad achosion unigol na damweiniol oedd y rhain, ond arferion oedd wedi’u gwreiddio mewn systemau ar draws awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chrefyddol, a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

185,000 o achosion

Roedd yr arferion ar eu mwyaf cyffredin rhwng 1949 a 1976, pan gafodd tua 185,000 o fabanod i famau di-briod eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr.

Daw’r ymddiheuriad dair blynedd ar ôl i Lywodraethau Cymru a’r Alban ymddiheuro i’r rhai gafodd eu heffeithio.

Dywedodd Diana Defries, cadeirydd presennol Movement for an Adoption Apology, y byddai’r ymddiheuriad yn achlysur “hynod deimladwy”.

Roedd hi newydd droi’n 17 oed pan gafodd ei merch ei mabwysiadu dan orfodaeth yn y 1970au.

Dywedodd Ann Keen, cyn-weinidog iechyd Llafur a goroeswr mabwysiadu gorfodol, ei bod wedi bod yn edrych ymlaen at gael ei “rhyddhau o’i chywilydd”.

Cafodd Ms Keen ei hanfon i gartref mamau a babanod yn Abertawe yn 1966, pan oedd hi’n 17 oed.

Dywedodd na wnaeth y mamau roi’r gorau i’w babanod, a bod llawer o’r plant wedi cael eu cymryd heb yn wybod iddyn nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.