Myfyriwr 18 oed wedi marw tra ar daith Gwobr Dug Caeredin ym Mhowys

01/07/2026
afon gwy.jpg

Mae myfyriwr coleg 18 oed wedi marw tra ar daith Gwobr Dug Caeredin ym Mhowys. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Afon Gwy yn Y Clas-ar-Wy (Glasbury) nos Fawrth wedi adroddiadau fod person 18 oed wedi mynd i mewn i'r dŵr ac ar goll. 

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod ei gorff wedi ei ddarganfod yn dilyn ymgyrch chwilio oedd yn cynnwys tîm achub mynydd a'r gwasanaeth tân. 

Fe wnaeth llefarydd ar ran Gwobr Dug Caeredin gadarnhau fod y myfyriwr ar daith a oedd yn rhan o'r wobr pan y bu farw. 

"Rydym yn drist iawn i gadarnhau bod person ifanc wedi boddi tra ar daith Dug Caeredin ym Mhowys.

“Mae ein meddyliau gyda theulu’r person ifanc, ynghyd â phawb a oedd yn cymryd rhan.

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi yn ystod yr amser anodd hwn.

"Mae Gwobr Dug Caeredin yn gweithio'n agos gyda choleg y person ifanc a'r awdurdodau perthnasol i ddeall sut ddigwyddodd y digwyddiad trasig yma."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Mae ymgyrch aml-asiantaeth wedi'i gynnal yn Afon Gwy nos Fawrth wedi adroddiadau fod dyn 18 oed wedi mynd i mewn i'r dŵr ac ar goll. 

"Yn anffodus, fe gafodd corff y dyn ei ddarganfod. Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd yma.

"Mae gwasanaethau brys yn parhau yn yr ardal ac rydym yn gofyn i'r cyhoedd gadw i ffwrdd tra y mae ymholiadau yn parhau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.