Chwe wedi eu harestio mewn bwytai yn Sir Gâr a Sir Benfro ar amheuaeth o weithio'n anghyfreithlon

Florentino's Caerfyrddin

Mae chwech o bobol oedd yn gweithio mewn bwytai yn Sir Gâr a Sir Benfro wedi cael eu harestio ar amheuaeth o weithio'n anghyfreithlon yn y DU.

Yr wythnos diwethaf, fe gafodd dau berson eu harestio ym mwyty Florentino's yn Ninbych-y-pysgod.

Fe gafodd pedwar eu harestio yn yr un bwyty yn Sir Gâr ym mis Chwefror eleni.

Roedd pedwar o'r gweithwyr o Rwmania, un o Bangladesh ac un o Mongolia.

Dywedodd y Swyddfa Gartref fod tri unigolyn wedi dychwelyd i'w gwledydd genedigol ar ôl iddyn nhw gael eu harestio gan swyddogion o dde Cymru.

Mae un arall wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth mewnfudo wrth i ymholiadau barhau, tra bod y chweched unigolyn wedi cael ei ryddhau ar ôl derbyn rhybudd.

Ychwanegodd y Swyddfa Gartref eu bod yn gweithio i ddod o hyd i’r sawl sy'n gyfrifol am gyflogi'r unigolion dan sylw.

Fe allai cyflogwyr dderbyn dirwy o hyd at £60,000 am gyflogi gweithiwr anghyfreithlon.

Yn 2025, fe gafodd 649 o bobl eu harestio ar amheuaeth o weithio'n anghyfreithlon. Mae hynny'n gynnydd o 85% o gymharu â 2024.

Dywedodd arweinydd uned mewnfudo'r DU yng Nghymru, Richard Johnson, y bydd swyddogion yn gweithio "ddydd a nos" i sicrhau nad yw busnesau yn cyflogi gweithwyr anghyfreithlon.

"Hoffwn ddiolch i fy swyddogion a wnaeth ddangos y lefelau uchaf o broffesiynoldeb mewn amgylchiadau heriol yn ystod yr ymgyrch hon.

"Bydd timau gorfodaeth mewnfudo yng Nghymru yn gweithio ddydd a nos i sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio â’r rheolau ac ein bod ni'n darganfod y rhai sydd heb yr hawl i fod yn y DU."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.