Image
Oriel luniau: 10 mlynedd ers i Gymru ennill yn erbyn Gwlad Belg yn EURO 2016
Mae'n 10 mlynedd ddydd Mercher ers i Gymru ennill yn erbyn Gwlad Belg a sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol EURO 2016.
Dyma un o fuddugoliaethau mwyaf hanesyddol yn hanes pêl-droed Cymru.
Er i Wlad Belg fynd ar y blaen, fe wnaeth peniad Ashley Williams wedi 32 munud unioni'r sgôr.
Yn yr ail hanner fe sgoriodd Hal Robson-Kanu un o goliau gorau'r bencampwriaeth, wrth iddo droi yn y cwrt 16 a mynd heibio tri amddiffynnwr, cyn rhwydo heibio Thibaut Courtois.
Fe wnaeth Sam Vokes sicrhau'r fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm gyda pheniad i gefn y rhwyd, a sicrhau lle Cymru yn y pedwar olaf.
Dyma rai o'r lluniau gorau o'r diwrnod hanesyddol hwnnw.
Image
Image
Image
Image
Image
Image
Image
Image
Image
Image
Image