Y gantores a’r awdures Phyllis Kinney wedi marw yn 103 oed

29/06/2026

Y gantores a’r awdures Phyllis Kinney wedi marw yn 103 oed

Mae’r gantores ac awdures flaenllaw ar gerddoriaeth werin Cymru Phyllis Kinney wedi marw yn 103 oed.

Cafodd Phyllis Kinney ei geni yn America ac roedd wedi astudio yn Ysgol Juilliard ac roedd yn soprano gyda Chwmni Opera Carl Rosa yn ystod y 1940au. 

Ar ôl cwrdd â'i gŵr Dr Meredydd Evans (y ddau yn y prif lun uchod), fe wnaeth hi ymgolli yn niwylliant Cymru. Trwy ei hysgrifennu, ei hymchwil a'i pherfformiadau, helpodd Kinney i gadw a hyrwyddo cerddoriaeth draddodiadol Cymru. 

Mae archifau Kinney ac Evans bellach yn rhan o Archif Cerddoriaeth Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun: “Am newyddion trist heno wrth glywed am golli Phyllis Kinney - ffigwr allweddol ym myd alawon gwerin Cymru ac mor ddylanwadol yn y maes. 

"Byddwn yn cofio’i chyfraniad a’i hymroddiad i’n hiaith a’n diwylliant am flynyddoedd i ddod, gan anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei theulu a’i ffrindiau heno. Diolch am bopeth a chwsg mewn hedd.

Dywedoddd y label recordio Sain: "Trist clywed y newydd am golli Phylllis Kinney - cerddor ac ymchwilydd ac un o brif gynheiliaid y traddodiad gwerin cerddorol yma yng Nghymru. Roedd Phyllis yn wraig ryfeddol a'i chyfraniad yn enfawr."

'Arwres'

Mewn teyrnged, dywedodd yr awdur Arwel Rocet Jones bod Phyllis, oedd yn wreiddiol o dalaith Michigan wedi bod un o 10 person allan o 250 yn ei blwyddyn a lwyddodd i ennill ysgoloriaeth yn Ysgol Juilliard yn Efrog Newydd

“Mae hwnna’n rhoi syniad  i chi o oed cynnar, be oedd safon llais Phyllis,” meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

“Oedd hi'n gymaint, gymaint mwy na gwraig Merêd - oedd hi'n arwres a dynes oedd wedi gwneud cyfraniad aruthrol yn ei hawl ei hun, ond gyda'i gilydd fe wnaethon nhw gyfraniad hyd yn oed yn fwy dwi'n credu.

“Mi fyddai hi wedi bod yn 104 ddydd Sadwrn. Dwi'n meddwl y gallwn ni ddal i ddathlu y pen-blwydd yna oherwydd y cyfraniad aruthrol, aruthrol mae hi 'di'i wneud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.