Y cyn-AS Ceidwadol Craig Williams yn pledio'n euog i osod bet ar ddyddiad yr etholiad

Craig Williams PA

Mae'r cyn-aelod seneddol Ceidwadol Craig Williams wedi pledio’n euog yn Llys y Goron Southwark i dwyll wrth gamblo ar union ddyddiad Etholiad Cyffredinol 2024.

Plediodd Williams, o Lanfair Caereinion, Y Trallwng, Powys, yn euog mewn gwrandawiad yn Llundain ddydd Llun.

Roedd wedi betio £250, £100, a £22.50 ar ddyddiad yr etholiad, meddai'r erlyniad.

Pan ddaeth y sgandal i’r amlwg gyntaf, cyfaddefodd Williams iddo wneud “camgymeriad barn enfawr” pan gafodd ei holi am fet o £100.

Roedd Williams, a oedd yn ysgrifennydd preifat seneddol i Rishi Sunak, y prif weinidog, yn gyn-aleod seneddol ar etholaeth Gogledd Caerdydd rhwng 2015 a 2017, pan gafodd ei drechu gan Anna McMorrin o'r Blaid Lafur.

Yn 2019, cafodd Williams ei ethol yn AS dros Sir Drefaldwyn, ond collodd y sedd yn etholiad cyffredinol 2024.

Dywedodd Zoe Johnson KC ar ran yr erlyniad y bydd tri chyhuddiad pellach o dwyllo, y mae Williams yn eu gwadu, yn cael eu gollwng pan fydd yn cael ei ddedfrydu.

'Safle freintiedig'

Dywedodd fod Williams, aelod o'r Cyfrin Gyngor, wedi cael bod mewn "safle freintiedig, roedd yn rhan o nifer o gyfarfodydd yn Downing Street a phencadlys y Ceidwadwyr pan drafodwyd dyddiad yr etholiad cyffredinol".

"Mae bellach wedi derbyn trwy ei bledio ei fod wedi defnyddio gwybodaeth hynod sensitif a chyfrinachol i osod betiau ac i elwa," meddai.

Plediodd Amy Hind, 35 oed, gwraig dirprwy gyfarwyddwr digidol y Ceidwadwyr Anthony Hind, yn euog hefyd i dwyllo drwy osod betiau ar union ddyddiad yr etholiad.

Roedd hi wedi gosod betiau o £10, £5, a £20 ar ddyddiad yr etholiad, cyn ceisio betio £767 a £700 ar bleidlais ym mis Gorffennaf ar 13 Mai 2024.

Methodd yr ymdrechion hynny, clywodd y llys, a cheisiodd osod bet o £700 y diwrnod canlynol cyn llwyddo i osod bet o £100 ar etholiad ym mis Gorffennaf, gyda'r ods yn 11-1.

Cafodd cyhuddiad gwahanol yn erbyn ei gŵr, 37 oed, sef ei fod wedi twyllo wrth gamblo drwy drosglwyddo gwybodaeth i'w wraig, ei ollwng gan yr erlyniad.

Bydd Hind yn cael ei ddedfrydu gan y Barnwr Tony Baumgartner, Cofiadur San Steffan, ar 23 Hydref.

Ni fydd Craig Williams yn cael ei ddedfrydu nes bod y cyd-ddiffynwyr wedi sefyll eu prawf.

Hefyd yn y gwrandawiad ddydd Llun, plediodd 13 o gyd-ddiffynwyr yn ddieuog i dwyllo wrth gamblo mewn perthynas â betiau ar etholiad 2024.

Mae eu hachosion llys wedi'u trefnu ar gyfer mis Medi 2027 a mis Ionawr 2028.

Llun: Craig Williams yn Llys y Goron Southwark (PA)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.