Gary Glitter wedi ei holi am droseddau rhyw honedig yn erbyn merch o dan 14 oed
Mae'r troseddwr rhyw a'r cyn-ganwr pop Gary Glitter wedi cael ei holi gan yr heddlu am droseddau rhyw honedig yn erbyn merch o dan 14 oed.
Mae honiadau i Glitter, neu Paul Gadd yn ôl ei enw bedydd, gyflawni'r troseddau dros gyfnod o amser yn y 70au hwyr a dechrau'r 80au mewn cyfeiriad preswyl yn Kensington, gorllewin Llundain.
Mae e ar hyn o bryd o dan glo mewn carchar yn Nyfnaint, ar ôl iddo gael dedfryd o 16 mlynedd yn 2015 am gamdrin tair merch ysgol yn rhywiol rhwng 1975 ac 1980. Mae ei ddedfryd yn dod i ben yn 2031.
Yn ôl papur The Sun, cafodd y troseddwr rhyw 82 oed ei holi yn y carchar ar ôl i honiad ddod i'r amlwg ar 9 Ionawr 2025
Dywedodd Heddlu'r Met yn Llundain: "Mae dyn yn ei 80au wedi ei gyfweld o dan rybudd.
"Mae ein hymchwiliad yn parhau, ac mae'r ddioddefwraig yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol."
Cafodd Glitter ei ryddhau o garchar yn Dorset fis Chwefror 2023 ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o dan glo.
Chwe wythnos yn ddiweddarach, cafodd ei roi o dan glo unwaith eto ar ôl iddo dorri amodau ei drwydded.
Collodd ei gais i gael ei ryddhau o garchar fis Mehefin y llynedd.