Sŵ lle cafodd bachgen ei anafu gan grocodeil wedi ail-agor yn llwyr

Old Hurst

Mae cawell crocodeiliaid mewn sŵ yn Sir Gaergrawnt lle cafodd bachgen tair oed anaf difrifol wedi ail-agor i'r cyhoedd. 

Cadarnhaodd sŵ Johnsons of Old Hurst yn Huntingdon mew neges ar gyfryngau cymdeithasol bod y safle cyfan bellach ar agor ddydd Sadwrn, naw diwrnod ers i'r plentyn gael ei anafu gan grocodeil.

Mae'r rhai sy'n ymweld â'r sŵ yn rheolaidd wedi anfon neges at y perchnogion yn nodi pa mor falch ydyn nhw bod y lleoliad bellach wedi ail-agor yn llwyr.    

Mae dyn 30 oed o Norfolk a gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi cael ei ryddhau am nad yw'n ddigon iach i gael ei gyfweld, yn ôl yr heddlu.

Yn ol adroddiadau, mae gan y dyn a gafodd ei arestio anghenion dysgu, ac roedd yno gyda'i ofalwyr.  

Nid yw'n adnabod y dioddefwr, ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan 18 Medi.

Cafodd swyddogion eu galw i sŵ Johnson's of Old Hurst yn ardal Huntingdon am 13.24 ddydd Iau 18 Mehefin yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad yn ymwneud â bachgen tair oed, aeth i gawell crocodeiliaid.

Cafodd y bachgen, a gafodd ei dynnu oddi yno gan staff y sŵ, ei gludo i Ysbyty Addenbrooke's yng Nghaergrawnt gydag anafiadau difrifol. 

Mae e bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.  

Yn y cyfamser, mae ymchwiliad ar y gweill wedi i ryw 40 o weithwyr yn yr ysbyty gael mynediad at gofnodion meddygol y bachgen. 

Mae sefydliad Ysbytai Prifysgol Caergrawnt wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac yn cynnal ymchwiliad er mwyn darganfod a oedd gan bob un o'r gweithwyr hynny reswm dilys dros fwrw golwg ar wybodaeth feddygol y bachgen.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.