Cwmni camera cloch drws yn cynnig cyfarchion yn y Wyddeleg am y tro cyntaf
Mae cwmni camera cloch drws Ring wedi cyhoeddi y bydd yn cynnig cyfarchion yn y Wyddeleg am y tro cyntaf.
Fe wnaeth y cwmni lansio ymgyrch yr haf diwethaf i ddod o hyd i lais Gwyddelig swyddogol ar gyfer ei wasanaeth cloch drws fideo.
Yn dilyn cannoedd o glyweliadau ar draws Iwerddon, penderfynodd y cwmni mai Isibéal Ní Cheallaigh fydd eu llais Gwyddelig swyddogol cyntaf.
Mae Isibeál, sy’n dod o Ddulyn ac sy’n byw yn Galway ar hyn o bryd, yn gyn-athrawes ysgol gynradd a oedd yn dysgu drwy gyfrwng y Wyddeleg.
Fe adawodd ei swydd fel athrawes i gwblhau gradd meistr yn y cyfryngau. Ond daeth y bennod nesaf yn ei gyrfa gyda Ring "ar hap", ar ôl iddi gerdded drwy'r ganolfan siopa lle'r oedd y clyweliadau'n cael eu cynnal.
"Doeddwn i wir ddim yn disgwyl hyn nac yn meddwl y byddai’n digwydd," meddai Isibeál.
Yn ôl cwmni Ring, roedd yr ymgyrch yn "dathlu’r hyn sy’n gwneud Iwerddon yn unigryw", gydag ymchwil yn awgrymu fod 55% o bobl Iwerddon yn dweud eu bod yn caru eu hacen.
Am y tro cyntaf erioed, mae nodwedd Atebion Cyflym Ring yn cynnwys opsiwn ar gyfer cyfarchion yn y Wyddeleg.
Dywedodd Isibeál, sy'n rhugl yn y Wyddeleg, bod hyn yn gam "arwyddocaol" iawn.
"Mae cynnydd enfawr yn y Wyddeleg ar hyn o bryd, hyd yn oed mewn hysbysebion ac ar bosteri," meddai.
"Mae llawer o bethau’n cael eu dangos mewn dwy iaith, felly mae’n bwysig iawn cael yr opsiwn hwnnw hefyd."
Dywedodd Dave Ward, Cyfarwyddwr Rheoli Ewrop a Rhyngwladol cwmni Ring: "Mae ein ‘Llais y Genedl’ yn dathlu’r lleisiau sy’n gwneud pob cymdogaeth ledled Iwerddon yn unigryw.
"Mae Isibeál yn dod â rhywbeth gwirioneddol arbennig i Ring, nid yn unig acen hardd ond hefyd ein llais cyntaf erioed yn yr iaith Wyddeleg.
"Rwy’n hynod gyffrous i’n cwsmeriaid allu dod â’r cynhesrwydd a’r swyn hwnnw i’w drws ffrynt."