Pryder fod perchnogion anifeiliaid anwes yn troi at AI yn lle’r milfeddyg

Cath ar liniadur

Mae elusen wedi mynegi pryder fod perchnogion yn troi at AI yn hytrach na'r milfeddyg pan mae eu hanifeiliaid anwes yn sâl.

Mae arolwg gan yr RSPCA yn dangos bod 8% o berchnogion anifeiliaid anwes yng Nghymru bellach yn defnyddio AI yn rheolaidd am gyngor a chymorth wrth ofalu am eu hanifail anwes.

Gwirio symptomau anifeiliaid anwes sâl oedd y prif ddefnydd, gydag 66% o’r rheini oedd yn troi at offer fel ChatGPT, Gemini a Grok yn gwneud hynny am arweiniad pan nad oedd eu hanifeiliaid yn dda.

Gallai pobl fod yn gadael eu hanifeiliaid heb driniaeth neu hyd yn oed yn torri’r gyfraith yn ddiarwybod iddyn nhw eu hunain drwy beidio a mynd a’u hanifeiliaid at y fet, meddai'r RSPCA.

Dywedodd Gemma Hope, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Eiriolaeth a Thystiolaeth yr RSPCA bod AI wedi “newid y gêm”  ym maes lles anifeiliaid.

“Rydym ni’n poeni, gyda chymaint o berchnogion anifeiliaid anwes bellach yn defnyddio modelau iaith mawr i wirio symptomau anifeiliaid anwes sâl, neu i holi am heriau ymddygiadol, y gallai yn anfwriadol achosi problemau lles yn hwyrach i anifeiliaid," meddai.

“Ni all botiau sgwrsio AI archwilio anifail yn gorfforol, gwirio ei waed, na deall y newidiadau cyflym sy’n digwydd pan fydd anifail anwes mewn poen.

“Waeth pa mor dda neu glyfar y gall AI ymddangos, os oes gan rywun amheuaeth am iechyd eu hanifail anwes, neu os ydyn nhw’n sylwi ar newidiadau sydyn, mae’n hanfodol cysylltu â milfeddyg ar unwaith.”

‘Cyfrifoldeb’

Bellach yn ei bumed flwyddyn, mae arolwg yr Animal Kindness Index yn astudiaeth flynyddol ledled y DU sy’n olrhain agweddau, ymddygiad a gwerthoedd y cyhoedd o ran lles anifeiliaid.

Mae canfyddiadau eleni wedi dwysáu pryderon yr RSPCA bod pwysau parhaus costau byw yn anfon rhai pobl i chwilio am “ateb cyflym” i filiau milfeddygol.

Yn ôl y Kindness Index, mae llawer mwy na hanner perchnogion anifeiliaid anwes ledled Cymru, sef 62%, yn poeni am allu fforddio biliau milfeddygol.

Mae mwy nag un o bob deg perchennog anifail anwes, sef 11%, yn cyfaddef eu bod wedi lleihau eu gwariant ar ofal milfeddygol oherwydd pwysau ariannol. 

Mae 4% o bobl yng Nghymru hefyd yn cyfaddef bod y sefyllfa economaidd wedi cyfrannu at eu defnydd o lefydd sgwrsio AI am gyngor iechyd.

Dyw bron draean o berchnogion anifeiliaid anwes ledled Cymru, sef 30%, ddim ynd mynd a’u hanifail am archwiliad blynyddol, a dyw 6% ddim wedi cofrestru â milfeddyg o gwbl.

Ychwanegodd Gemma: “Does dim modd osgoi’r ffaith bod bod yn berchen ar anifail anwes yn gyfrifoldeb enfawr, ac y gall fod yn ddrud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.