Cymru i gystadlu mewn pêl-fasged cadair olwyn yng Ngemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf
Bydd Cymru'n cael ei chynrychioli mewn cystadlaethau pêl-fasged yng Ngemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf erioed, wedi i dimau pêl-fasged cadair olwyn 3x3 y dynion a'r menywod gymhwyso ar gyfer Glasgow 2026.
Dywedodd Tîm Cymru fod y gamp yn "garreg filltir arwyddocaol" i bêl-fasged cadair olwyn yng Nghymru, wrth i'r chwaraewyr ddod y cyntaf erioed i gynrychioli'r wlad yn y gamp yng Ngemau'r Gymanwlad.
Yn nhîm y dynion bydd Alex Wilson, Ben Johnson-Rolfe, Dan May a Will Bishop, tra bydd Anastasia Blease, Chloe Morgan, Libi Phillips a Molly Lander yn cynrychioli'r menywod.
Bydd cystadleuaeth pêl-fasged cadair olwyn 3x3 yn dychwelyd i raglen y Gemau wedi iddi gael ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Birmingham yn 2022.
'Moment hanesyddol'
Dywedodd Pennaeth Cenhadaeth Tîm Cymru, Gethin Jones, fod y newyddion yn nodi "moment wirioneddol hanesyddol".
"Mae cymhwyso yn gyflawniad arbennig ynddo'i hun, ond mae'r cyfle i'r athletwyr hyn gystadlu yn Glasgow ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn gwneud hyn yn fwy arbennig fyth," meddai.
"Mae'r chwaraewyr hyn wedi gweithio'n eithriadol o galed i gyrraedd y pwynt hwn ac wedi haeddu'r hawl i sefyll ochr yn ochr ag athletwyr gorau'r Gymanwlad.
"Mae pawb sy'n ymwneud â Thîm Cymru yn hynod falch o'r hyn y maent wedi'i gyflawni ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at eu gweld yn creu hanes yr haf hwn."
Ychwanegodd Nathan Stephens, Rheolwr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru: "Mae gweld timau'r dynion a'r menywod yn cael eu dewis yn gyflawniad arbennig, nid yn unig i'r chwaraewyr ond hefyd i'r hyfforddwyr, y staff cefnogol, a'r ffrindiau a'r teuluoedd sydd wedi eu cefnogi bob cam o'r ffordd.
"Mae cael eu dewis yn golygu popeth i'r chwaraewyr. Maent yn llysgenhadon rhagorol i gamp pêl-fasged cadair olwyn, ac mae cael y cyfle i gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn rhywbeth na fyddai llawer ohonynt erioed wedi breuddwydio y byddai'n bosibl."
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i Dîm Cymru gyhoeddi enwau 114 o athletwyr a fydd yn cystadlu mewn 10 o wahanol gampau yn y Gemau eleni.
Bydd Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2026 yn cael eu cynnal rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst.
