Craig Bellamy ddim am ymuno â Burnley, yn ôl adroddiadau
Ni fydd Craig Bellamy yn gadael Cymru i ymuno â Burnley fel eu rheolwr newydd, yn ôl adroddiadau.
Roedd disgwyl i Bellamy ymuno â Burnley, sydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth, cyn diwedd yr wythnos.
Ond mae adroddiadau fore Iau yn dweud na fydd Bellamy yn gadael Cymru, gyda Burnley yn ystyried rheolwyr eraill ar gyfer y swydd.
Y gred yw bod Burnley yn ystyried Steve Cooper a Rob Edwards, y ddau yn Gymry, i gymryd drosodd fel rheolwr.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C ddydd Mawrth, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, ei fod yn deall bod gan bobl "uchelgais" wrth drafod dyfodol Craig Bellamy fel rheolwr Cymru, yn dilyn y dyfalu ei fod ar fin gadael.
"Mae’n rhaid bod yn agored i’r ffaith bod pobl yn gallu mynegi eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Ond mae Craig wedi bod yn arbennig i bêl-droed Cymru," meddai.
"Mae e wedi bod yn wych i weithio gydag e, mae e’n hyfforddwr gwych, ond yn bwysicach i mi, mae e’n berson gwych - yn fod dynol hyfryd.
"Rwyf wedi mwynhau pob diwrnod hyd yma o weithio gydag e, ac, wyddoch chi, beth bynnag ddaw yn y dyddiau neu’r wythnosau nesaf i ni ac i Craig, rydym yn dymuno… mae ei gartref yma yn y Gymdeithas Bêl-droed, a bydd hynny wastad yn wir."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2069425247997088166
Cafodd Craig Bellamy ei benodi'n rheolwr Cymru ar 9 Mehefin 2024 ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddod â chytundeb Rob Page fel rheolwr i ben.
Ni chollodd Bellamy ei bedair gêm gyntaf wrth y llyw ac fe enillodd ddyrchafiad i Gynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Methodd â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd eleni, ar ôl i Gymru golli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Bosnia yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle.
Mae gan Bellamy, sydd yn 46 oed, ddwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb gyda Chymru.