Nifer wedi eu lladd yn Venezuela wrth i ddau ddaeargryn daro'r brifddinas
Mae dau ddaeargryn yn olynol wedi lladd o leiaf 32 o bobl yn Venezuela, gydag o leiaf 700 wedi’u hanafu, meddai’r Arlywydd dros dro Delcy Rodríguez.
Roedd cryfder y daeargrynfeydd yn 7.2 a 7.5 ar y raddfa Richter, ac fe wnaethon nhw daro ardal i’r gorllewin o’r brifddinas Caracas. Roedd modd eu teimlo mor bell i ffwrdd â Bogota, Colombia, yn ôl adroddiadau.
Mae pryderon y gallai nifer y marwolaethau fod llawer yn uwch gydag Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau yn cyfrifo fod siawns o 30% bod mwy na 100,000 o farwolaethau.
Mae achubwyr yn y brifddinas yn chwilio drwy’r rwbel am oroeswyr, ac roedd adroddiadau bod lleisiau i'w clywed o'r rwbel yn galw am help.
Roedd Venezuela yn dathlu gwyliau cenedlaethol, i goffáu Brwydr Carabobo yn 1821 yn erbyn Sbaen, ac roedd llawer o bobl gartref pan darodd y daeargrynfeydd am 18.04 amser lleol (23.04 amser Prydain).
Mae arlywydd dros dro Venezuela, Delcy Rodríguez, wedi diolch i Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud ei fod wedi bod mewn cysylltiad cyson ag awdurdodau Venezuela.
Mewn neges ar ei wefan Truth Social, dywedodd Donald Trump: “Mae’r ddau ddaeargryn mawr sydd newydd daro pobl wych Venezuela yn enfawr o ran eu maint, ac wedi gadael nifer dinistriol o farwolaethau.
“Mae’r UDA yn barod, yn fodlon, ac yn gallu helpu!”
Mae Venezuela mewn ardal seismig weithgar lle mae dau blât tectonig, sef plât y Caribî a phlât De America, yn cyfarfod.