Mwy o ysgolion i gau ddydd Iau wrth i'r gwres eithafol dorri record

Mwy o ysgolion i gau ddydd Iau wrth i'r gwres eithafol dorri record

Bydd mwy o ysgolion ledled Cymru ar gau ddydd Iau, wrth i rybudd coch prin am wres eithafol barhau mewn grym.

Roedd hyd at 500 o ysgolion mewn nifer o siroedd ar gau neu wedi cau’n gynnar ddydd Mercher.

Daw wedi i'r tymheredd uchaf ar gofnod ym mis Mehefin gael ei recordio yn Charlwood, Surrey.

Mae sawl ysgol bellach wedi cyhoeddi y byddan nhw'n aros ar gau am ail ddiwrnod, tra bod rhagor o ysgolion wedi penderfynu cau ddydd Iau.

Ymhlith yr ysgolion diweddaraf i gyhoeddi eu bod nhw'n cau mae ysgolion yng Ngwynedd - Syr Hugh yng Nghaernarfon, Hafon Lon ym Mhenrhyndeudraeth ac Eifion Wyn ym Mhorthmadog.

Bydd 40 o ysgolion ym Mhowys hefyd ar gau, ac  27 o ysgolion yng Ngheredigion.

Dywedodd pennaeth Ysgol Bro Hyddgen, Dafydd Jones, ei fod wedi penderfynu cau’r ysgol ddydd Iau oherwydd y gwres.

Dywedodd fod nifer o blant wedi mynd adref yn sâl oherwydd effaith y gwres ddydd Mercher.

Ychwanegodd fod prinder staff, gan fod nifer o athrawon yr ysgol yn rhieni i blant mewn ysgolion cynradd yng Ngheredigion sydd hefyd ar gau.

Mewn neges i rieni dywedodd Ysgol Bro Teifi bod tymheredd ystafelloedd dosbarth wedi bod dros 30°C, a bod tymheredd hyd yn oed yn uwch yn cael ei ragweld ar gyfer yfory.

Cafodd Ysgol Eifion Wyn ym Mhorthmadog ei chau brynhawn Mercher ar ôl i asesiad risg ganfod nad oedd modd cynnal amgylchedd diogel i ddisgyblion a staff oherwydd y tymheredd uchel yn yr adeilad.

Rhybuddion

Mae disgwyl iddi fod yn gynhesach fyth dydd Iau gyda dymhereddau gyrraedd 40c mewn rhai mannau o'r Deyrnas Unedig.

Mae’r rhybudd coch gan y Swyddfa Dywydd i rannau o dde Cymru wedi bod mewn grym ers 09:00 fore Mercher, ac fe fydd yn parhau tan 23:59 nos Iau.

Mae'n berthnasol i Flaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.

Mae rhybudd oren yn berthnasol i bob un o siroedd eraill Cymru.

Gwiriwch isod ydi eich ysgol ar gau:

Blaenau Gwent 

Conwy

Torfaen

Merthyr Tudful

Pen-y-bont ar Ogwr

Sir Gâr

Caerffili

Castell-nedd Port Talbot

Casnewydd - Gwiriwch wefan yr ysgol benodol.

Caerdydd

Ceredigion

Bro Morgannwg

Sir Fynwy 

Sir y Fflint

Rhondda Cynon Taf

Abertawe

Powys

Sir Gâr 

Gwynedd

Dinbych

Wrecsam

Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.