Gyrrwr trên a fu farw wedi pasio signal coch, medd adroddiad

Damwain tren Bedford

Bu farw gyrrwr trên a oedd mewn gwrthdrawiad yn Sir Bedford yn Lloegr yr wythnos diwethaf ar ôl iddo basio signal coch ychydig eiliadau cyn y ddamwain, yn ôl adroddiad cychwynnol.

Cafodd Shaun Burton, 60 oed, ei ladd pan darodd y trên East Midlands Railway (EMR) yr oedd yn ei yrru gefn trên arall gan yr un gweithredwr.

Dywedodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) mewn adroddiad dros dro fod trên Mr Burton wedi pasio signal coch ger safle’r ddamwain yn Elstow, ger Bedford, am 17.15 ddydd Gwener.

Ychwanegodd nad yw’n bosib eto dweud "pa arwydd a gafodd y gyrrwr" gan offer y system rhybuddio awtomatig a oedd wedi’i osod ar y trên.

Cafodd 162 o bobl eu hanafu yn y digwyddiad, ac roedd angen triniaeth ysbyty ar 102 ohonynt.

Mae 53 o bobl yn parhau yn yr ysbyty, gan gynnwys wyth mewn cyflwr critigol.

Mae delweddau o gamera teledu cylch cyfyng oedd ar blaen trên Mr Burton yn dangos bod signal ger safle’r ddamwain "yn dangos agwedd goch wrth i’r trên nesáu ato ac yna ei basio", meddai’r RAIB.

Mae dadansoddiad cynnar o gofnodwr data o weddillion y trên yn dangos ei fod yn teithio ar gyflymder o 76mya pan gafodd y breciau eu gweithredu naw eiliad cyn y gwrthdrawiad. 

Roedd cyflymder y trên wedi gostwng i 49mya pan ddigwyddodd y ddamwain.

Ymchwiliad pellach

Mae'r system rhybuddio awtomatig yn defnyddio magnetau ar y traciau sy’n sbarduno derbynyddion ar drenau.

Mae’r system ar y trên yn canu cloch wrth nesáu at signal gwyrdd, a chorn wrth nesáu at signal nad yw’n wyrdd.

Mewn achosion pan nad yw'r signal yn wyrdd, mae’n ofynnol i yrwyr gydnabod y rhybudd drwy wasgu botwm.

Wedi i hynny ddigwydd, mae dangosydd gweledol yn ymddangos yng nghaban y gyrrwr i'w hatgoffa.

Bydd brec brys y trên yn cael ei weithredu os nad yw'r gyrrwyr yn ymateb i’r rhybudd yn ddigon cyflym.

Dywedodd datganiad y RAIB fod y trên arall a oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad wedi dod i stop "yn annisgwyl" ar ôl i nam yn ei system rhybuddio awtomatig achosi i’w freciau weithredu.

O ganlyniad i hynny, newidiodd y signal y tu ôl iddo’n awtomatig i goch, meddai’r ymchwilwyr.

Dywedodd y RAIB y bydd ei ymchwiliad llawn yn ystyried "gweithredoedd y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad".

Bydd hefyd yn edrych ar "unrhyw ffactorau a allai fod wedi dylanwadu" ar y gweithredoedd hyn, ychwanegodd.

Fe gymerodd ymchwiliad RAIB i wrthdrawiad rhwng dau drên yn Nhalerddig yn 2024, a achosodd farwolaeth un dyn, flwyddyn a hanner i adrodd yn ôl gyda chasgliadau terfynol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.