Arestio bachgen 14 oed ar amheuaeth o lofruddio ar ôl canfod corff merch oedd ar goll

Lilly Blaina

Mae bachgen 14 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i gorff merch oedd ar goll gael ei ddarganfod yn nhref Blaenau ger Abertyleri nos Lun.

Mae’r bachgen, o ardal Blaenau Gwent, wedi’i gadw yn y ddalfa.

Er nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, dywedodd y llu fod teulu Lilly, merch 14 oed oedd ar goll, wedi cael gwybod am y datblygiad.

Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi ei theulu.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Steven Thomas: "Mae presenoldeb heddlu sylweddol yn parhau yn yr ardal ac rydym yn deall y pryder ymhlith ein cymunedau ar hyn o bryd.

"Mae ein hymholiadau'n parhau i geisio sefydlu amgylchiadau'r farwolaeth ac ar hyn o bryd mae un person yn y ddalfa gan yr heddlu yn cael ei holi.

"Rwy'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod i siarad â ni, gallwch wneud hyn yn bersonol, neu gallwch gysylltu â ni ar y sianeli arferol.

"Byddwn hefyd yn annog pobl i beidio â dyfalu ar-lein gan mai ymchwiliad byw yw hwn a gall sylwadau o'r fath gael effaith ar ein gallu i ddwyn unrhyw un, a geir i fod wedi cyflawni trosedd, gerbron y llys."

Mae modd rhannu unrhyw wybodaeth gyda’r llu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2600197059.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.