Enwi gyrrwr trên fu farw yng ngwrthdrawiad Bedford
Mae gyrrwr a fu farw yng ngwrthdrawiad trên Bedford nos Wener wedi ei enwi gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Dywedodd y llu brynhawn ddydd Sul mai Shaun Burton, 60 oed, oedd enw'r gyrrwr trên.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Rydym wedi ein distrywio gan ei golled. Mae ein meddyliau hefyd gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn."
Roedd Network Rail wedi dweud yn gynharach bod y gwrthdrawiad yn “ddigwyddiad trasig, unigol”. Cafodd degau o bobl hefyd eu hanafu ar ôl i ddau drên daro’i gilydd.
Bydd tarfu ar wasanaethau rheilffordd tan 28 Mehefin tra bod “gwaith adfer cymhleth” i symud y trenau a’r cerbydau a ddifrodwyd oddi ar y trac yn parhau.
Ychwanegodd Network Rail y byddai angen i beirianwyr asesu’r difrod a chwblhau atgyweiriadau.
Mae teithwyr rheilffordd wedi cael eu rhybuddio i ddisgwyl tarfu ar wasanaethau i mewn ac allan o Bedford am wythnos arall, ac fe’u hanogwyd i deithio dim ond os yw’n “hollol angenrheidiol”.
Ni fydd unrhyw wasanaethau i'r gogledd o Luton ar linell brysur Thameslink, na gwasanaethau EMR i'r de o Bedford, gyda gwasanaeth bws cyfyngedig yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Luton a Bedford, meddai Network Rail.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod mwy nag 80 o bobl wedi cael eu trin yn yr ysbyty nos Wener, ac erbyn bore Sadwrn roedd 28 yn parhau yn yr ysbyty, gyda naw mewn cyflwr critigol.
O'r 100 o ddioddefwyr, fe anafwyd 11 o bobl yn ddifrifol iawn, anafwyd 32 arall yn ddifrifol, a chafodd 57 arall fân anafiadau, meddai Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr (EEAST).