Miloedd yn heidio i Gôr y Cewri fore Sul er mwyn dathlu heuldro’r haf
Fe wnaeth miloedd o bobl heidio i Gôr y Cewri fore Sul i weld yr haul yn codi am 04:25 ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn.
Dywedodd English Heritage fod cymaint â 20,000 o bobl wedi ymgynnull yno eleni.
Dywedodd Georgia Butters, Pennaeth Côr y Cewri yn English Heritage, fod y wawr wedi bod yn “wirioneddol hyfryd” eleni.
“Mae dod at ein gilydd wrth y gofeb eiconig hon ar gyfer heuldro’r haf yn draddodiad sy’n dod â phobl ynghyd o bell ac agos,” meddai.
“Roedd yn hyfryd gweld teuluoedd a ffrindiau’n cymryd rhan yn y profiad llawen hwn.”
Yr heuldro yw un o’r unig achlysuron blynyddol pan mae English Heritage yn caniatáu i bobl fynd yn agos at gerrig Côr y Cewri.
Mae ‘cerrig gleision’ byd-enwog Côr y Cewri yn dod o safle yn agos at Fynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro.
Does neb wir yn gwybod pam y cafodd Côr y Cewri ei adeiladu.
Mae Côr y Cewri yn gofeb a adeiladwyd yn union ar linell gwawr canol haf a machlud canol gaeaf.
Ar heuldro’r haf, mae’r haul yn codi y tu ôl i’r Maen Sawdl - y fynedfa hynafol i’r cylch cerrig - ac mae pelydrau’r haul yn cael eu sianelu i ganol y gofeb.
Credir bod heuldro’r haf wedi cael ei ddathlu yng Nghôr y Cewri ers miloedd o flynyddoedd.
Mae heuldro’r haf yn digwydd wrth i un o begynau’r Ddaear gyrraedd ei ogwydd mwyaf tuag at yr haul, a’r haul yn cyrraedd ei safle uchaf yn yr awyr. Mae hyn yn sicrhau y cyfnod hiraf o olau dydd yn ystod y flwyddyn.