Y Brenin i ddatgelu ei fil treth personol am y tro cyntaf
Fe fydd y Brenin Charles yn datgleu ei fil treth personol - y brenin neu'r frenhines cyntaf ym Mhrydain yn y cyfnod modern i wneud hynny.
Fe fydd ei daliadau treth yn cael eu rhannu ddydd Iau fel elfen newydd yng nghyfrifon ariannol blynyddol y brenin, gyda'r penderfyniad, yn ôl Palas Buckingham, yn un personol gan y Brenin.
Dywedodd y Palas fod hyn yn rhan o ymgyrch foderneiddio am fwy o dryloywder ac i "annog dealltwriaeth ehangach o'n hatebolrwydd".
Mae hefyd yn dilyn galwadau am fwy o drylowyder o ran cyllid brenhinol yn dilyn sgandalau am frawd y brenin, Andrew Mountbatten-Windsor.
Bydd taliadau treth y Brenin ar gyfer y flwyddyn 2024-25 yn cael eu cyhoeddi a bydd yn cynnwys treth ar ei incwm gan gynnwys elw o Ddugiaeth Lancaster, ac unrhyw fuddsoddiadau personol ac enillion o ystadau preifat y Brenin, fel Sandringham a Balmoral.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Palas Buckingham fod hyn yn rhan o ymgyrch ehangach i fod yn fwy agored gyda'r cyhoedd.
"I'w roi'n syml, rydym yn parhau i foderneiddio ac esblygu," medden nhw.
Pan oedd yn Dywysog Cymru, datgelodd Charles faint o dreth yr oedd yn talu.