Mark Hughes yn rhoi teyrnged wedi marwolaeth 'sydyn ac annisgwyl' ei fab Alex
Mae cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Mark Hughes wedi dweud ei fod “wedi torri ei galon” ar ôl marwolaeth "sydyn ac annisgwyl" ei fab Alex yn 38 oed.
Fe dreuliodd Alex Hughes gyfnodau gyda Stockport County a Wrecsam cyn rhoi’r gorau i’w yrfa fel chwaraewr i weithio ym maes dadansoddi chwaraewyr a recriwtio.
Fe wnaeth ei dad, cyn-ymosodwr Manchester United a Chelsea, a fu’n rheoli Cymru rhwng 1999 a 2004, roi teyrnged i’w fab mewn datganiad.
“Mae Jill a minnau yn dorcalonnus tu hwnt ar ôl colli ein mab annwyl Alex mor sydyn ac annisgwyl,” meddai.
“Roedd Alex yn fab arbennig, yn frawd i Curtis a Xenna, ac yn ŵr a thad ymroddgar i Jessica a’u dau blentyn hyfryd, Sebastian a Leonardo.
“Roedd gan Alex lawer o ffrindiau a chydweithwyr da. Bydd pob un ohonom yn gweld ei eisiau’n fawr.”
Bu Alex Hughes yn gweithio i Blackburn, Manchester City a Fulham, tri chlwb oedd dan reolaeth ei dad, cyn arwain academi breifat ym Mhortiwgal.
Yn fwy diweddar bu’n bennaeth recriwtio chwaraewyr yng nghlwb Grimsby Town.