Pump wedi eu hanafu mewn ymosodiadau sy'n cael eu trin fel rhai gwrth-Fwslimaidd
Mae'r heddlu yng Nghaeredin wedi cadarnhau fod pump o bobl wedi’u hanafu mewn cyfres o ymosodiadau sy'n cael eu trin fel rhai sydd wedi’u hysgogi gan gasineb gwrth-Fwslimaidd.
Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol ac adroddiadau lleol yn y ddinas yn honni i ddyn arfog grwydro'r strydoedd heb grys, cyn ymosod ar nifer o unigolion mewn digwyddiadau ar wahân.
Mae'r gwasanaethau brys yn dweud fod unigolion wedi derbyn triniaeth am anafiadau, gyda rhai wedi cael gofal yn yr ysbyty.
Mae Heddlu’r Alban wedi arestio dyn mewn cysylltiad â’r digwyddiadau ac mae ymchwiliad ar droed i achos yr ymosodiadau honedig.
Mae swyddogion wedi cadarnhau eu bod yn archwilio’r posibilrwydd fod yr ymosodiadau wedi eu targedu yn benodol at bobl Fwslimaidd.
Mae arweinwyr cymunedol wedi condemnio’r trais ac wedi galw am undod rhwng cymunedau.
Yn y cyfamser mae'r heddlu wedi dweud nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd o unrhyw fygythiad ehangach i’r cyhoedd, ond maent yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Mae’r digwyddiad wedi achosi pryder ymhlith trigolion lleol, gyda llawer yn galw am fesurau pellach i fynd i’r afael â throseddau casineb a sicrhau diogelwch pawb yn y gymuned.