Perchennog Melin Llynon yn dweud ei fod wedi cael gorchymyn i ail-baentio ar ôl Eisteddfod yr Urdd

20/06/2026
Melin Llynon

Mae perchennog hen felin flawd amlwg ar Ynys Môn wedi dweud ei fod wedi derbyn gorchymyn i’w hail-baentio’n wyn yn dilyn Eisteddfod yr Urdd.

Roedd Richard Holt wedi paentio Melin Llynon yn goch, gwyn a gwyrdd er mwyn dathlu Eisteddfod yr Urdd ar yr ynys yn ddiweddar.

Roedd Mr Holt wedi gobeithio cadw’r lliwiau tan ddiwedd yr haf, ond nawr, meddai, mae swyddog cadwraeth Ynys Môn wedi dweud wrtho fod yn rhaid ail-baentio’r adeilad yn wyn cyn gynted â phosibl.

Adeiladwyd Melin Llynon, sy'n adeilad rhestredig, yn 1775 a dyma'r unig felin sydd ar ôl yng Nghymru.

Dywedodd Mr Holt ar y cyfryngau cymdeithasol: “Cawsom gannoedd o negeseuon o ganmoliaeth, gan gynnwys rhai gan wleidyddion uchaf Llywodraeth Cymru.

"Er gwaethaf hyn, pan ffoniais swyddog cadwraeth y Cyngor, cefais wybod bod rhaid paentio’r felin yn ôl cyn gynted â phosibl.

"Cafodd ffurflen gais ei hanfon ataf yn wreiddiol i wneud cais i gadw’r lliwiau’n barhaol gan aelodau eraill o’r Cyngor oherwydd y nifer llethol o geisiadau gan y cyhoedd. Fodd bynnag, gwnaeth y swyddog cadwraeth hi’n gwbl glir na fyddai’r cais yn cael ei gymeradwyo.

"Gofynnais wedyn a allem o leiaf gadw’r lliwiau dros yr haf, ond roedd yr ateb yn “na” pendant hefyd. 

'Amddiffyn treftadaeth'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: “Rydym yn cydnabod yn llawn ac yn gwbl gefnogol o’r diwylliant Cymreig a digwyddiadau megis Eisteddfod yr Urdd.

“Fodd bynnag, mae Melin Llynon yn adeilad rhestredig Gradd II sy’n golygu fod ganddo bwysigrwydd pensaernïol a hanesyddol arbennig. Mae wedi’i warchod yn gyfreithiol ac mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, sy’n sicrhau bod adeiladau rhestredig yn cael eu hamddiffyn a’u rheoli mewn modd cynaliadwy.

“Mae angen i unrhyw addasiadau sy’n effeithio ar gymeriad neu ffabrig adeilad rhestredig gael Caniatâd Adeilad Rhestredig ymlaen llaw. Mae hyn yn berthnasol ym mhob achos, beth bynnag y bwriad tu ôl i’r gwaith. Y tro hwn, cafodd y gwaith paentio ei wneud heb ganiatâd.

“Am y rhesymau hyn, rydym wedi gofyn fod y paent a ddefnyddiwyd heb ganiatâd yn cael ei dynnu gan ddefnyddio dull gwarchod priodol a bod yr adeilad yn cael ei ddychwelyd i fod â gorffeniad addas, anadladwy. 

"Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn yr ased treftadaeth pwysig hwn a sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei ddyletswyddau cyfreithiol.

“Mae’r mater yn parhau i gael ei ymchwilio iddo ac rydym yn parhau i weithio gyda deilydd y brydles er mwyn datrys y sefyllfa mewn modd priodol.” 

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru ar ran CADW.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.