
Jacob Rees Mogg yn ymweld â fferm Gareth Wyn Jones ar y Carneddau
Jacob Rees Mogg yn ymweld â fferm Gareth Wyn Jones ar y Carneddau
Mae arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Jacob Rees Mogg, wedi ymweld â fferm yr amaethwr a'r darlledwr, Gareth Wyn Jones, yn Llanfairfechan fel rhan o’i daith o amgylch y gogledd.
Roedd y gwleidydd hefyd wedi ymweld â Dsityllfa Abergwyngregyn a Zip World ym Methesda ddydd Gwener.
Yn ôl Gareth Wyn Jones, roedd yr ymweliad yn “hollbwysig” iddo allu dangos y ffordd roedd ef a nifer o ffermwyr yn yr ardal yn byw a gweithio.
“Ges i alwad rhyw fis yn ôl gan San Steffan, yn dweud eu bod nhw’n gobeithio gyrru rhywun draw am ymweliad,” eglurodd y ffermwr.
“Doedd gen i’m syniad pwy oedd o, ond mae ‘na groeso mawr i unrhyw un, sydd yn barod i wrando, i ddod yma ar y ffarm.
“Felly, oeddwn ni’n hapus i groesawu Mr Mogg gan obeithio y byddai’n gyfla pwysig i ddangos iddo sut yden ni’n byw yma ar yr ucheldir.”
Yn ystod ei ymweliad â’r Carneddau ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, cafodd Jacob Rees Mogg y cyfle i weld sawl agwedd hanfodol i fywyd Gareth Wyn Jones fel ffermwr, meddai.

“Nes i ddangos o sut mae ci defaid yn gweithio a drwy hynny gafodd o gyfla i ddysgu bach o Gymraeg, fatha ‘ara deg’,” dywedodd Gareth Wyn Jones.
“Yna, nes i ddangos sut oedden ni’n cneifio a phwysigrwydd creu gwlan er ei fod yn gostus i’w gynhyrchu.
“Nes i ddangos sut oedden ni’n tyfu llysiau, ac yna wrth gwrs, dangos y merlod ar y Carneddau. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y merlod ac yn deall eu pwysigrwydd, nid yn unig i’r tirwedd ond i dwristiaeth yr ardal hefyd.
“Yno, fe ddaeth 15 aelod o’r Gymdeithas Ffermwyr i’r fferm a gofyn cwestiynau dadleuol iddo. Roedd o’n ddigon parod i’w hateb ac yn reit deg yn ei ymateb.”
Er bod ymweliad Mr Mogg wedi derbyn beirniadaeth ar-lein a gan rhai gwleidyddion lleol, dywedodd Mr Wyn Jones ei fod yn bwysig ‘agor y drws’ i bobl o bob plaid.
“Fyswn ni’n gwahoddi unrhyw un yma – Keir Starmer, Mark Drakeford, ac unrhyw berson o unrhyw blaid,” ychwanegodd.
“Ac os mae’r profiad yma – lle mae Mr Mogg wedi gallu sgwrsio gyda ni am bedair awr yn gallu gwneud gwahaniaeth a neud o feddwl, yna dwi wedi gwneud fy swydd i o geisio cynrychioli'r gymuned amaethyddol yma”
Prif lun: Gareth Wyn Jones