Pont droed yn Nyffryn Ogwen wedi ail-agor ar ei newydd wedd
Mae pont droed wedi ail-agor i’r cyhoedd ar ei newydd wedd yn Nyffryn Ogwen yng Ngwynedd.
Dywed Cyngor Gwynedd fod ail-agor Pont Sarnau yn ardal Bethesda yn "nodi carreg filltir bwysig yn y gwaith o wella llwybrau teithio llesol yn Nyffryn Ogwen."
Mae’r strwythur newydd 26-metr yn uwchraddio’r hen bont droed a oedd wedi cyrraedd diwedd ei hoes.
Roedd yr hen Bont Sarnau wedi cynnig cyswllt allweddol i gerddwyr yn yr ardal am dros ganrif.
Wrth siarad yn yr agoriad swyddogol ganol yr wythnos, dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Rydw i’n falch iawn o weld Pont Sarnau newydd yn agor i’r cyhoedd.
"Dyma brosiect sy’n amlygu ein bod fel Cyngor am wella cyfleoedd teithio cynaliadwy - gan gynnig opsiynau teithio ar droed neu olwyn ar gyfer teithiau dydd i ddydd ac ar gyfer hamddena.
“Mae Lôn Las Ogwen yn adnodd gwerthfawr iawn yma yn yr ardal, ac yn dilyn gwelliannau i bontydd troed yn ardal Porth Penrhyn a gwella hygyrchedd y llwybr yn y misoedd diwethaf.
“Dyma’r cam diweddaraf mewn rhaglen ehangach o welliannau, ac rwy’n obeithiol y byddwn yn gweld rhagor o ddatblygiadau i wella llwybrau beicio a cherdded yn Nyffryn Ogwen yn y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned y Cyngor: “Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi bod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers Gorffennaf 2021, ac un o’n prif amcanion wrth sicrhau’r statws oedd cefnogi adfywio ein cymunedau llechi yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol, gan ddathlu rôl unigryw’r ardal.
“Ond nid y chwarel yn unig oedd yn bwysig, roedd y cysylltiadau trafnidiaeth – y rheilffordd a Phorth Penrhyn yn hollbwysig i’r diwydiant. Mae Lôn Las Ogwen yn barhad o’r treftadaeth hwnnw, ac yn sicrhau gwerth pellach i’w gwaddol hwnnw er budd pobl Dyffryn Ogwen a rheini sy’n ymweld â’r ardal.”
Mae’r gwaith yn rhan o gynllun Llewyrch o’r Llechi; sef rhaglen buddsoddi ddiwylliannol, ac mae’n rhan o gyfres o welliannau yn deillio o ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

