Cwpan y Byd: Albanwr yn cwblhau taith gerdded elusennol o Los Angeles i Boston
Mae cefnogwr pêl-droed o'r Alban wedi cwblhau taith gerdded elusennol 3,000 milltir mewn cilt ar draws yr Unol Daleithiau.
Cychwynnodd Craig Ferguson, 22 oed, o Los Angeles ym mis Chwefror gan obeithio cyrraedd Boston mewn pryd ar gyfer gêm gyntaf yr Alban yn erbyn Haiti yng Nghwpan y Byd, sydd yn cael ei chynnal nos Sadwrn.
Cyrhaeddodd gyda mwy na diwrnod i'w sbario, a chafodd ei groesawu dros lathenni olaf ei daith gan bibyddion lleol wrth iddo gyrraedd Comin Boston am tua 14:30 ddydd Gwener.
Yno, cafodd ei groesawu gan dorf o gefnogwyr, aelodau o'r Fyddin Tartan ac Albanwyr sydd wedi ymgartrefu yn America.
Croeso
Dywedodd Mr Ferguson fod y croeso yn "bopeth y gallai fod wedi breuddwydio amdano".
Ychydig cyn gorffen y daith gerdded, cafodd Mr Ferguson, sy'n dod o Paisley, Sir Renfrew, wybod fod Llywodraeth yr Alban wedi rhoi rhodd o £400,000 i'w daith gerdded - ac mae bellach wedi cyrraedd ei darged o godi £1 miliwn ar gyfer elusen.
"Pan gefais y newyddion am hynny tua 48 awr yn ôl, dyna oedd y peth a gadwodd y freuddwyd yn fyw," meddai.
"Roedd adegau pan oeddwn i'n meddwl, dyw e ddim yn bosib, roeddwn ni'n meddwl ei fod yn rhy uchelgeisiol.
"Ac yna clywed y newyddion yna - fe gadwodd y freuddwyd yn fyw, ac nid yn unig ei chadw'n fyw, ond yna fe wnaeth pawb ymuno â hi, ac ar yr un diwrnod fe lwyddon ni i gyrraedd y £1 miliwn hwnnw.
"Felly mae'n anhygoel."
'Torri fy ngwallt'
Wrth drafod y peth cyntaf y bydd yn ei wneud ar ôl gorffen y daith gerdded, dywedodd: “I fod yn onest, torri fy ngwallt, shafio, gweld fy ffrindiau a’m teulu, a chael ychydig o ddiodydd a mwynhau’r foment yn fawr”.
Disgrifiodd Prif Weinidog Yr Alban John Swinney, sydd yn Boston cyn gêm agoriadol ei wlad, Mr Ferguson fel “dyn ifanc eithriadol”.
“Pan welais i Craig yn ôl ym mis Chwefror, cyn iddo adael, roedd ychydig yn ofnus o achos yr her.
“Mae wedi’i wneud o. Gosododd darged codi arian mawr, beiddgar o £1 miliwn i’w godi i gefnogi SAMH - i godi ymwybyddiaeth, ond hefyd i godi arian.
“Mae Craig wedi gwneud cymaint yn hynny o beth, roeddwn i’n meddwl mai’r peth iawn i’r Llywodraeth ei wneud oedd ei gefnogi a chefnogi’r hyn y mae’n ei wneud.
“Felly, mae ein cyfraniad o £400,000 yn helpu Craig ar y daith i gefnogi SAMH.
“Ond mae aelodau’r cyhoedd wedi cefnogi Craig oherwydd eu bod nhw’n edmygu’r hyn mae’n ei wneud, ac mae’n enghraifft ddisglair o bobl ifanc yr Alban heddiw.”
Llun: PA