Cadarnhau achos o’r Tafod Glas ar fferm yng Ngheredigion

Gwartheg

Mae achos newydd o’r Tafod Glas wedi ei gadarnhau ar fferm yng Ngheredigion.

Fe wnaeth un fuwch brofi’n bositif am BTV-3 yn dilyn geni llo swrth (dummy calf).

Fe wnaeth y llo hefyd brofi yn bositif ar gyfer yr afiechyd.

Fe gafodd yr achos cyntaf erioed yng Nghymru ei gadarnhau ym mis Awst 2024, gyda'r ail ym mis Mai 2025. Roedd achosion pellach yn Sir Fynwy ym mis Hydref y llynedd.

Fe gafodd Parth Rheoli Dros Dro y Tafod Glas ei sefydlu yng Nghymru y llynedd, ond cafodd ei ddiddymu ym mis Tachwedd.

Dywedodd prif swyddog milfeddygol Cymru, Richard Irvine, fod mwy o achosion o’r Tafod Glas bellach yn debygol.

“Rydym bellach yng nghyfnod trosglwyddo gweithredol y tafod glas, felly gallwn ddisgwyl gweld mwy o achosion o BTV-3 yng Nghymru,” meddai.

“Gan fod cyfyngiadau ar symud da byw ar gyfer BTV-3 wedi’u dileu o dan y parth cyfyngedig Cymru gyfan ym mis Tachwedd 2025, mae cyrchu da byw yn ddiogel yn hanfodol.

“Rydyn ni’n cynghori pobl sy’n cadw da byw i holi am y tafod glas, fel nad ydych chi’n prynu mwy nag yr oeddech chi wedi bargeinio amdano.”

Beth yw tafod glas?

Mae’r tafod glas yn firws sydd yn cael ei ledaenu'n bennaf gan wybedyn bach sy'n brathu.

Mae'n effeithio ar ddefaid, gwartheg, ac anifeiliaid eraill sydd yn cnoi eu cil fel ceirw a geifr, ac anifeiliaid fel lamas ac alpacas.

Mae’n effeithio ar iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid. Mewn achosion difrifol, gall achosi erthyliadau a hyd yn oed marwolaeth mewn anifeiliaid heintiedig.

Un o’r symptomau yw lliw glas ar dafodau anifeiliaid oherwydd lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.

Nid yw'n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, ond gall achosion arwain at gyfyngiadau ar symud anifeiliaid am gyfnod hir a masnach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.