Heddlu Belfast yn defnyddio canonau dŵr i dawelu protestwyr dros nos

Belfast

Mae teulu dyn a gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn ymosodiad cyllell ym Melfast wedi apelio am dawelwch wrth i anhrefn treisgar barhau mewn rhannau o Ogledd Iwerddon, gyda'r heddlu yno wedi gorfod defnyddio canonau dŵr i dawelu protestwyr dros nos.

Mae nifer o deuluoedd sy'n byw yn y ddinas hefyd wedi eu gorfodi i adael eu cartrefi wrth i’r heddlu a’r gwasanaethau brys geisio adfer trefn.

Mae Stephen Ogilvie yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog ar ôl cael ei anafu’n ddifrifol mewn digwyddiad yn y ddinas yn gynharach yr wythnos hon. 

Mae dyn 30 oed o darddiad Swdan wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Yn sgil y digwyddiad, mae protestiadau ac anhrefn wedi lledaenu ar draws sawl ardal ym Melfast a’r cyffiniau. 

Yn ystod ail noson o drais ac anhrefn, cafodd tai, cerbydau a busnesau eu targedu, gydag eiddo’n cael eu difrodi neu eu rhoi ar dân. 

Defnyddiodd Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon ganonau dŵr ac adnoddau ychwanegol i ddelio â therfysgwyr a oedd yn taflu brics, poteli a bomiau petrol at swyddogion. 

Mae adroddiadau fore Iau hefyd fod sawl swyddog heddlu wedi eu hanafu yn ystod yr anhrefn.

Mewn datganiad emosiynol, dywedodd teulu Stephen Ogilvie na ddylid defnyddio’r hyn a ddigwyddodd iddo fel esgus i ledaenu casineb na rhaniadau o fewn cymdeithas, gan annog pobl i ymddwyn yn heddychlon a pharchu’r gyfraith wrth fynegi eu barn.

Mae arweinwyr gwleidyddol ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn y DU a'r Iwerddon wedi condemnio’r trais. 

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Keir Starmer, fod yr ymosodiadau ar gartrefi a chymunedau yn annerbyniol, tra bod Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O’Neill, wedi disgrifio’r digwyddiadau fel “drygioni llwyr”.

Mae swyddogion cyfiawnder ac arweinwyr cymunedol hefyd wedi rhybuddio am rôl y cyfryngau cymdeithasol wrth danio tensiynau. Yn ôl gweinidogion, mae unigolion ac ymgyrchwyr ar-lein wedi lledaenu gwybodaeth gamarweiniol a negeseuon sy’n ceisio cynyddu dicter a rhaniadau hiliol. 

Wrth i’r heddlu gynyddu eu presenoldeb ar strydoedd y ddinas, mae awdurdodau’n apelio am dawelwch ac yn annog trigolion i beidio â chymryd y gyfraith i’w dwylo eu hunain.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.