Dyfodol Doctor Who yng Nghymru yn ansicr wrth i'r bennod Nadolig gael ei chanslo

Doctor Who

Mae ansicrwydd ynghylch a fydd Doctor Who yn parhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru ar ôl i'r BBC gyhoeddi y bydd y gyfres yn cael ei rhyddhau i dendr cystadleuol.

Mae'r gorfforaeth hefyd wedi cadarnhau na fydd rhaglen arbennig Doctor Who dros y Nadolig yn mynd yn ei blaen, yn dilyn penderfyniad ar y cyd rhwng y BBC, y cynhyrchydd Russell T Davies a'r cwmni cynhyrchu Bad Wolf.

Mae Doctor Who wedi cael ei ffilmio yng Nghymru ers iddi ddychwelyd i'r sgrin yn 2005.

Cafodd y gyfres ei chynhyrchu yn stiwdios Porth y Rhath ym Mae Caerdydd o 2012, cyn symud i Wolf Studios Wales gerllaw ar ôl i Bad Wolf ddechrau cynhyrchu'r rhaglen.

Ond nid yw'r BBC wedi cadarnhau eto a fydd cynhyrchu'r gyfres yn parhau yng Nghymru ar ôl cwblhau'r broses dendro, na os fydd Bad Wolf yn gwneud cais i barhau i gynhyrchu'r rhaglen.

Mae Bad Wolf wedi elwa ar becyn cyllid gwerth hyd at £9 miliwn gan Lywodraeth Cymru, oedd yn cynnwys blaenswm ad-daladwy a grant.

Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gytundeb pedair blynedd gyda'r cwmni er mwyn sicrhau y byddai o leiaf pedwar o'i gynyrchiadau yn cael eu ffilmio a'u cynhyrchu yng Nghymru erbyn mis Mawrth 2027.

Mae enw'r cwmni Bad Wolf yn gyfeiriad at stori o gyfres Doctor Who yn 2005.

Parcio'r Tardis?

Daeth cyhoeddiad y BBC dydd Mercher wedi i Disney+ gadarnhau fis Hydref diwethaf na fyddai'n parhau â'i bartneriaeth â'r BBC ar gyfer cyfresi newydd o Doctor Who, ar ôl cydweithio ar ddwy gyfres.

Mewn datganiad, dywedodd y gorfforaeth: “Mae Doctor Who yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r BBC ac mae’r tendr hwn yn tanategu ymrwymiad parhaus y BBC i Doctor Who, gan sicrhau y bydd cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau’r gyfres am flynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd y BBC fod y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r rhaglen arbennig dros y Nadolig wedi ei wneud er mwyn canolbwyntio ar ddyfodol y gyfres, yn hytrach na darlledu un bennod i bontio'r bwlch.

Mewn neges ar Instagram, dywedodd y Cymro Russell T Davies ei fod yn ffarwelio â Doctor Who, ond ei fod yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesaf.

Bu Davies yn uwch-gynhyrchydd ar y gyfres o 2005 hyd at 2010, cyn dychwelyd yn 2022 ar gyfer y penodau i nodi pen-blwydd y gyfres yn 60 oed. Fe weithiodd ar y ddwy gyfres ganlynol ar gyfer y BBC a Disney+.

Dywedodd nad oedd sgript wedi cael ei hysgrifennu ar gyfer y rhaglen arbennig dros y Nadolig, ac nad oedd unrhyw actor wedi cael cynnig rôl y Doctor nesaf.

Cafodd pennod olaf y gyfres ddiweddaraf ei darlledu ym mis Mai 2025, gyda chymeriad y Doctor, a gafodd ei bortreadu gan Ncuti Gatwa, yn adfywio (regenerate) ar ddiwedd y bennod.

Ymddangosodd Billie Piper yn y golygfeydd olaf, ond nid yw ei rôl yn nyfodol y gyfres wedi cael ei chadarnhau.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn 2023, cyfrannodd Doctor Who tua £134.6 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru rhwng 2004 a 2021.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod ail-lansio'r gyfres yng Nghymru wedi bod yn sbardun pwysig i dwf y sector teledu a'r diwydiannau creadigol yn ne Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.