Llywodraeth Cymru i ystyried opsiynau ar gyfer trydedd groesfan i'r Fenai

Pont Menai

Mae'n bosib fod trydedd groesfan ar gyfer y Fenai gam yn agosach, ar ôl i Lywodraeth newydd Cymru gadarnhau y bydd yn edrych ar opsiynau yn fanwl 

Mewn datganiad yn y Senedd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, y bydd, wrth ystyried yr opsiynau manwl hynny yn "adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni."

Ychwanegodd fod Llywodraeth newydd Plaid Cymru "yn bwrw ymlaen â mesurau ac opsiynau hirdymor i gryfhau cydnerthedd ar draws Afon Menai, gan ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydedd groesfan".

Cerbydau o dan 7.5 tunnell sydd i fod i groesi Pont y Borth rhwng Gwynedd a Môn ar hyn o bryd. 

Ac mae'r bont grog wedi gorfod cau droeon yn ystod yr wythnosau diwethaf, oherwydd amheuon fod cerbydau dros y terfyn pwysau wedi ei chroesi. 

Nododd Mark Hooper fod Pont y Borth yn "strwythur 200 mlwydd oed, nad sydd wedi ei chynllunio ar gyfer gofynion traffig yn yr oes fodern, a bydd yn parhau i gyflwyno heriau".

M4

Yn y de- ddwyrain, yn ardal Casnewydd, lle mae tagfeydd traffig cyson hefyd, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidaeth ei fod "yn ymgymryd â gwaith wedi'i dargedu i nodi strategaeth glir ar gyfer coridor yr M4."

Dywedodd "Fydd y llywodraeth hon ddim yn dychwelyd i safbwyntiau'r gorffennol nac ychwaith yn ail adrodd gwaith sydd eisoes wedi ei wneud. 
 
"Nid yr ateb yw adolygiad allanol arall," meddai. 
 
Eglurodd y bydd yn cyhoeddi "rhaglen fer, sydd â ffocws" er mwyn archwilio opsiynau realistig ar gyfer ffyrdd, rheilffyrdd a gwasanaethau bysus.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.