Y Tywysog Andrew 'wedi derbyn papurau cyfreithiol' yn dilyn honiadau o ymosodiad rhyw

Sky News

Mae’r Tywysog Andrew wedi derbyn papurau cyfreithiol yn dilyn honiadau o ymosodiad rhyw, yn ôl dogfen o’r llys yn yr UDA.

Yn ôl Sky News, mae cyfreithwyr sy'n cynrhychioli Virginia Giuffre, sy’n ceisio erlyn Dug Caerefrog, yn dweud yn y ddogfen bod yr achos cyfreithiol sifil wedi ei drosglwyddo i swyddog o Heddlu’r Met oedd yn gweithio ar gatiau’r Royal Lodge, Winsdor Great Park, ddydd Iau 27 Awst am 9:30.

Mae Ms Giuffre yn honni iddi gael ei gorfodi i gael rhyw gyda Thywysog Andrew pan oedd hi'n 17 oed.

Mae’r Dug wedi gwadu cael perthynas nag unrhyw gyfathrach rywiol gyda hi.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Llun: Paul Kagame (drwy Flickr)