Y Prif Weinidog i ‘gymryd pob cam’ i atal achos arall fel un Neil Foden

Rhun ap Iorwerth a Neil Foden

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn “cymryd pob cam y gallwn ni o fewn ein grym” i leihau’r risg y bydd achos tebyg i un y pedoffeil Neil Foden yn digwydd eto.

Fe gafodd y pedoffeil a'r cyn-bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ei garcharu yn 2024 am gam-drin merched.

Daeth adroddiad ym mis Tachwedd i’r casgliad fod asiantaethau wedi colli dros 50 o gyfleoedd i’w atal rhag cam-drin merched yn rhywiol.

Wrth siarad yn sesiwn holi’r Prif Weinidog yn y Senedd, dywedodd AS Reform dros Wynedd Maldwyn, Andrew Griffin, ei fod wedi derbyn gohebiaeth gan ei etholwyr yn “mynegi pryder” ar y pwnc.

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu neu gefnogi adolygiad annibynnol o sut mae Cyngor Gwynedd wedi ymdrin â’r achos.

Wrth ganmol dewrder dioddefwyr y cyn-brifathro, dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth mai ei flaenoriaeth oedd gweithredu ar yr hyn a ddaeth allan o’r adolygiad ymarfer plant.

“Roeddwn i wedi ystyried dilyn trywydd ymchwiliad pellach,” meddai.

“Ond mae’n rhaid i ni gael ein harwain gan farn cadeirydd annibynnol yr adroddiad hwnnw, a gynghorodd na fyddai ymchwiliad pellach yn ychwanegu gwerth yn yr achos hwn.

“Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw parhau i frwydro dros gyfiawnder i’r bobl ifanc hyn, ac i bobl ifanc y dyfodol, drwy’r camau rydym ni’n eu cymryd i feithrin diwylliant diogelu cryf, sicrhau atebolrwydd ar bob lefel, a sicrhau bod lleisiau plant yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol.”

Y cefndir

Cafodd Neil Foden ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023.

Ers euogfarn Foden ym mis Gorffennaf 2024, mae rhagor o ddioddefwyr wedi camu ymlaen.

Wedi i’r achos troseddol ddod i ben, cafodd Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

Dechreuodd y broses ym mis Awst 2024 dan gadeiryddiaeth Jan Pickles OBE.

Dywedodd Jan Pickles wrth gyhoeddi'r adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’ fod Neil Foden wedi "targedu plant yr oedd yn gwybod eu bod yn agored i niwed".

"Roedd Neil Foden yn bedoffeil soffistigedig a greodd ddiwylliant a oedd yn caniatáu iddo droseddu yn agored," meddai.

Dywedodd yr adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, fod angen “newid diwylliannol” wrth ymateb i bryderon am unigolyn sy’n gweithio gyda phlant.

‘Diwylliant newydd’

Un arall a siaradodd yn sesiwn holi’r Prif Weinidog oedd AS Plaid Cymru, Beca Brown, sy’n gyn-gynghorydd yng Ngwynedd.

Dywedodd fod “cyfres o fethiannau ar draws sawl sefydliad” wedi bod yn achos Neil Foden.

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai unrhyw “laesu dwylo” a’i fod yn “cymryd pob cam y gallwn ni o fewn ein grym ni i leihau’r risg y bydd unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto”.

“Mae meithrin diwylliant newydd yn gwbl allweddol, lle mae plant, ac athrawon hefyd, yn teimlo’n ddiogel i siarad,” meddai.

“Rydym ni eisoes yn cymryd camau mewn ymateb i'r adolygiad, yn cynnwys cryfhau canllawiau statudol a chefnogol i ysgolion, ac mae adolygiad o adran 5 yr adroddiad yn mynd i gael ei lansio yn fuan iawn.”

Dywedodd fod ei Lywodraeth yn derbyn pob argymhelliad a oedd yn yr adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.